Jude Law

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Jude Law
Jude Law at TIFF1.jpg
Law yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto 2007
Ganwyd 29 Rhagfyr, 1972
Lewisham, Llundain, Baner Lloegr Lloegr
Yn enwog am Cold Mountain, The Talented Mr. Ripley
Galwedigaeth Actor, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd

Mae Jude Law (ganed 29 Rhagfyr, 1972) yn actor, cyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilmiau Seisnig.

Dechreuodd actio gyda'r Theatr Cerddorol Ieuenctid Cenedlaethol ym 1987, a chafodd ei swydd actio gyntaf ym 1989. Ar ôl iddo serennu mewn ffilmiau wedi'u cyfarwyddo gan Andrew Niccol, Clint Eastwood a David Cronenberg, cafodd ei enwebu am Wobr yr Academi ym 1999 am yr Actor Cefnogol Gorau yn ffilm Anthony Minghella The Talented Mr. Ripley. Yn 2000, enillodd Wobr BAFTA am yr "Actor Cefnogol Gorau" am ei waith yn y ffilm. Yn 2003, cafodd ei enwebu am Wobr yr Academi am yr Actor Gorau am ei berfformiad yn un o ffilmiau eraill Minghella, Cold Mountain.


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.