Clint Eastwood

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Clint Eastwood yn 2007

Actor a gwneuthurwr ffilmiau Americanaidd yw Clinton "Clint" Eastwood, Jr. (ganwyd 31 Mai, 1930).

Caiff ei adnabod yn bennaf am ei rolau actio mewn ffilmiau am y Gorllewin Gwyllt, yn enwedig ffilmiau o'r 1960au, 1970au a dechrau'r 1980au. Gwnaeth ei berfformiadau fel y Dyn Heb Enw (Man with No Name) eiconig yn nhrioleg "Dollars" Sergio Leone (A Fistful of Dollars (1964), For a Few Dollars More (1965) a The Good, the Bad and the Ugly (1966)) sicrhau ei le fel symbol parhaus o wryweidd-dra.

Enillodd Eastwood bum Gwobr yr Academi — dwywaith fel y Cyfarwyddwr Gorau a chynhyrchydd y Ffilm Orau a Gwobr Irving G Thalberg ym 1995. Mae hefyd wedi cael ei enwebu ddwy waith fel yr actor gorau am ei berfformiadau yn Unforgiven a Million Dollar Baby. Mae ei ffilmiau mwy diweddar yn arbennig wedi derbyn cryn dipyn o feirniadaethau canmoladwy gan gynnwys Million Dollar Baby (2004), Letters from Iwo Jima (2006), a rhai ffilmiau cynt megis High Plains Drifter (1973), The Outlaw Josey Wales (1976) ac Unforgiven (1992).

Hefyd mae gan Eastwood ddiddordeb yng ngwleidyddiaeth a chafodd ei ethol yn Faer Carmel-by-the-Sea, California lle bu'n y swydd rhwng 1986 a 1988.