Prifysgol Goethe Frankfurt am Main

Oddi ar Wicipedia
Prifysgol Goethe yn Frankfurt
Sêl y brifysgol.
Mathprifysgol gyhoeddus, Local Internet registry, comprehensive university Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlJohann Wolfgang von Goethe Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1914 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirFrankfurt am Main Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Cyfesurynnau50.12791°N 8.66944°E Edit this on Wikidata
Map

Prifysgol ymchwil gyhoeddus yn yr Almaen yw Prifysgol Goethe Frankfurt am Main (Almaeneg: Goethe-Universität Frankfurt am Main) a leolir yn Frankfurt am Main yn nhalaith Hessen. Hon ydy'r brifysgol drydedd fwyaf yn yr Almaen, gyda thros 48,000 o fyfyrwyr.

Sefydlwyd dan yr enw Prifysgol Frankfurt am Main (Universität Frankfurt am Main) ym 1914 cyn newid ei henw ym 1932 er anrhydedd Johann Wolfgang von Goethe, un o feibion enwocaf Frankfurt. Cychwynnodd fel "prifysgol y dinasyddion", gydag arian a roddwyd gan drigolion cyfoethocaf y ddinas. Cafodd y rhan fwyaf o'r cyfalaf gwaddoledig ei fuddsoddi mewn bondiau rhyfel, ac felly wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a chwymp Ymerodraeth yr Almaen cafodd gwaddol y brifysgol ei ddibrisio'n llwyr. Ym 1923, daeth yn brifysgol gyhoeddus wedi ei hariannu gan ddinas Frankfurt a thalaith Prwsia.[1]

Sefydlwyd y Sefydliad dros Ymchwil Cymdeithasol (Institut für Sozialforschung, IfS) yn Frankfurt ym 1923, ac yno yn y 1930au datblygodd Ysgol Frankfurt. Wedi i'r Natsïaid esgyn i rym ym 1933, diswyddwyd rhyw draean o athrawon y brifysgol gan y deddfau newydd, a chodwyd y faner Natsïaidd ar y campws. Symudodd yr IfS i Brifysgol Columbia ym 1934. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, difethwyd adeiladau'r brifysgol o ganlyniad i fomiau'r Cynghreiriaid ym Mawrth 1944. Cychwynnwyd ar y broses o ddad-Natsïeiddio'r brifysgol yn Ebrill 1945, ac ailagorodd ym 1946. Dychwelodd yr IfS i Brifysgol Frankfurt ym 1951.

Methodd y ddinas dalu ei hanner o'r costau ers 1965, ac felly ym 1967 cymerodd talaith Hessen yr holl gyfrifoldeb dros ariannu'r brifysgol. Frankfurt oedd un o brif fannau'r mudiad myfyrwyr yng Ngorllewin yr Almaen ym 1968, a chynhaliwyd protestiadau a meddianaethau ar y campws. Ehangwyd lleoliadau'r brifysgol ers y 1980au, ac yn 2004 cytunodd y dalaith i dalu €1.2 biliwn i chyflawni adeiladu'r tri champws.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "University history", Goethe-Universität Frankfurt am Main. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 27 Hydref 2023.