Morgan ap Pasgen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Brenin Powys yng nghanol rhan gyntaf y 6ed ganrif oedd Morgan ap Pasgen (bl. tua 540, efallai).

Os ydy'r dystiolaeth amdano yn ddilys, teyrnasodd mewn cyfnod pan oedd teyrnas Powys yn ymestyn dros y ffin bresennol i orllewin canolbarth Lloegr ac yn rhan o diriogaeth Frythonig a ymestynnai o'r Hen Ogledd hyd Dyfnaint a Chernyw. Yn ôl Achresau Harley, yr oedd Morgan ei hun yn un o'r Cadelling, disgynyddion Cadell Ddyrnllwg o'r Hen Ogledd, sefydlydd traddodiadol llinach frenhinol Powys yn ôl Nennius.[1]

Daeth Morgan i'r orsedd ar farwolaeth ei dad, Pasgen ap Cyngen. Fel pob un o deyrnoedd Powys yn y cyfnod yma, ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael amdano heb law'r achau traddodiadol. Dilynwyd ef ar yr orsedd gan Brochwel Ysgithrog.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Ifor Williams, Canu Taliesin (Caerdydd, 1960), tud. 19.