Achresau Harley

Oddi ar Wicipedia
Achresau Harley
Darn o'r Historia Brittonum yn Llawysgrif Harley 3859. Ffolio 188b, ll'au 1-25.
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
Rhan oHarley MS 3859 Edit this on Wikidata
IaithHen Gymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1100, 1200 Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifllyfrgell Brydeinig Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Casgliad o achresau Hen Gymraeg yw Achresau Harley (Saesneg: Harleian genealogies) sydd i'w cael yn Llawysgrif Harley 3859 (Harleian MS 3859) yn y Llyfrgell Brydeinig ac sy'n rhan o'r casgliad o lawysgrifau cynnar a elwir yn Gasgliad Harley (Harleian Collection). Maent yn ffynhonnell bwysig ar gyfer hanes Cymru cyn cyfnod y Normaniaid.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae Llawysgrif Harley 3859, sy'n cynnwys testun o'r Annales Cambriae (Fersiwn A) a fersiwn o'r Historia Brittonum a briodolir i Nennius, yn cael ei dyddio gan yr arbenigwyr i o gwmpas y flwyddyn 1100.[1] Am fod yr achau a geir ynddi yn cychwyn gyda achau Owain ap Hywel Dda (m. 988), mae'n debyg y cafodd y deunydd ei crynhoi yn ail hanner y 10g.[2] Mae'r casgliad yn cynnwys achresau teyrnoedd cynnar Cymru a'r Hen Ogledd. Gwelir rhai o'r achresau hyn yn Llawysgrif Coleg yr Iesu 20 hefyd.

Mae'r casgliad yn cynnwys 30 achres, rhai ohonynt yn fyr iawn ac yn ymwneud â changhennau teuluol na wyddys llawer am eu hanes ac eraill yn hir iawn gan ymestyn yn ôl dros ddeugain cenhedlaeth a rhestru achau prif deuluoedd brenhinol Cymru. Ymddengys iddynt gael eu casglu dan nawdd frenhinol yn nheyrnas Deheubarth, efallai yn oes Owain fab Hywel Dda (gweler uchod). Gellir derbyn yr achau hyn yn gyffredinol hyd at y 6g ond mae'n rhaid wrth ofal gyda'r deunydd cynnar - dydy'r gwahanol achresau, yma ac mewn casgliadau eraill, ddim yn cytuno'n hollol bob tro - ac ni ellir profi dilysrwydd yr achau cynharaf, sy'n cynnwys cysylltu'r teuluoedd brenhinol gyda rheolwyr yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Mae achresau'r teuluoedd llai - canghennau yn perthyn i linachau brenhinol yn hytrach na llinachau brenhinol fel y cyfryw efallai - yn amhosibl i'w dilysu oherwydd diffyg tystiolaeth. Mae'r dosbarth olaf yn cynnwys achresau a all gynrychioli llinach disgynyddion teuluoedd brenhinol rhai o deyrnasoedd cynnar llai Cymru, fel Rhos a Dogfeiling, ond ni ellir fod yn sicr o hynny. Er hynny, dyma'r casgliad hynaf o achresau Cymreig sydd wedi goroesi ac mae ei werth hanesyddol yn uchel.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Siddons, Michael. "Welsh Genealogies". Yn Celtic Culture. A Historical Encyclopedia, gol. John T. Koch. Santa Barbara, 2006. tt. 800-2.
  2. Siddons. tt. 800-2.
  3. Wendy Davies, Wales in the Early Middle Ages (Gwasg Prifysgol Caerlŷr, 1982), tt. 202-03.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Argraffiadau[golygu | golygu cod]

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Nicholson, E. W. B. "The Dynasty of Cunedag and the 'Harleian genealogies'." Y Cymmrodor 21 (1908): 63-104.
  • James, J. W. “The Harleian Ms. 3859 Genealogy II: The Kings of Dyfed down to Arthur Map Petr. died c. 586.” Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd 23:2 (1969), 143-52.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]