Max Weber
Oddi ar Wicipedia
Cymdeithasegydd o'r Almaen oedd Maximilian Carl Emil Weber (21 Ebrill 1864 - 14 Mehefin 1920). Ganed ef yn Erfurt yn Thuringia, plentyn hynaf Max Weber, gwleidydd rhyddfrydol a gwas sifil. Dechreuodd ei yrfa ym Mhrifysgol Berlin]], ac yn ddiweddarach bu yn gweithio ym mhrifysgolion Freiburg, Heidelberg a Munich.
Roedd prif ddiddordebau Weber yn ymwneud a cymdeithaseg crefydd a llywodraeth. Ei gyhoeddiad pwysicaf oedd Yr Ethig Protestannaidd ac Ysbryd Cyfalafiaeth, lle mae'n dadlau fod crefydd yn un o'r rhesymau pwysicaf am y gwahaniaethau yn natblygiad diwylliannau y gorllewin a'r dwyrain. Ei ddamcaniaeth oedd fod nodweddion Protestaniaeth wedi arwain at ddatblygiad cyfalafiaeth.
Mewn gwaith arall, Gwleidyddiaeth fel Galwedigaeth, diffiniodd Weber y wladwriaeth fel y corff sy'n hawlio monopoli ar ddefnydd cyfreithiol grym, diffiniad sydd wedi dod yn allweddol i wyddor gwleidyddiaeth.

