Llyn y Biswail

Oddi ar Wicipedia
Llyn y Biswail
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.006561°N 4.015178°W Edit this on Wikidata
Map

Llyn yn Eryri yw Llyn y Biswail. Fe'i lleolir ym mynyddoedd y Moelwynion rhwng Nant Gwynant a Blaenau Ffestiniog.

Saif y llyn mewn cwm uchel tua hanner milltir i'r gogledd o gopa'r Cnicht. Llifa ffrwd o'r llyn i gyfeiriad y gorllewin am tua 2 filltir gan ddisgyn i ben Cwm Blaen Nanmor lle mae'n llifo i Afon Nanmor.

Lleolir Llyn y Biswail mewn ardal o rosdir gwlyb a mynyddoedd creigiog sy'n cynnwys sawl llyn arall o fewn rhyw filltir neu ddwy i'r llyn hwn, e.e. Llyn yr Adar a Llyn Llagi i'r gogledd a Llynnau Diffwys a Llyn Cwm-corsiog i'r dwyrain.