Llyn Gafr

Oddi ar Wicipedia
Llyn Gafr
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.7097°N 3.91066°W Edit this on Wikidata
Map
Llyn Gafr

Llyn bychan yn ne Gwynedd yw Llyn Gafr. Fe'i lleolir i'r gogledd o gopa Cadair Idris tua 3 milltir i'r de o dref Dolgellau.

Saif y llyn 1,600 troedfedd[1] i fyny ar lethrau gogleddol Cadair Idris tua hanner milltir i'r gogledd o Llyn y Gadair. Mae "Llwybr y Llwynog" neu "Llwybr y Cadno" (y Fox's Path), y llwybr mwayf poblogaidd i ddringo i gopa Cadair Idris, yn mynd heibio'n agos i lan y llyn.[2]

Mae ffrwd yn llifo o'r llyn i lifo i Afon Mawddach yn is i lawr yn Abergwynant.[2]

Enw[golygu | golygu cod]

Ceir sawl ffurf ar enw'r llyn hwn. Ar y map Arolwg Ordnans ceir "Llyn-y-Gafr"[2] ond gan fod gafr yn air benywaidd byddai disgwyl cael ffurf fel "Llyn yr Afr" yn hytrach na "Llyn y Gafr". Yn Atlas Meirionnydd ceir y ffurf "Llyn Gafr".[3] "Llyn Gafr" yw'r ffurf a geir gan Ioan Bowen Rees yn ei gyfrol Dringo Mynyddoedd Cymru hefyd.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931), tud. 131.
  2. 2.0 2.1 2.2 Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.
  3. Geraint Bowen (gol.), Atlas Meirionnydd (Dolgellau, 1975).
  4. Ioan Bowen Rees, Dringo Mynyddoedd Cymru (Llyfrau'r Dryw, 1965).