Llenyddiaeth Saesneg yr Alban

Oddi ar Wicipedia

Hyd at ddechrau'r 18g, ysgrifennodd y mwyafrif helaeth o lenorion yn Iseldiroedd yr Alban drwy gyfrwng y Sgoteg. Yn sgil undeb coronau Lloegr ac Iwerddon â'r Alban yn 1603, symudodd y llys Albanaidd i Lundain ac felly dirywiodd nawddogaeth y celfyddydau yn yr Alban. Cafodd iaith y werin yn yr Alban ei seisnigo'n raddol, yn enwedig wedi Deddfau Uno 1707, a gwelir arwyddion o'r newidiadau ieithyddol hyn yn Choice Collection of Comic and Serious Scots Poems (1706) gan James Watson (1664–1722) a The Ever Green (1724) gan Allan Ramsay (1686–1758). Ysgrifennodd dau o feirdd gwychaf y Sgoteg, Robert Fergusson (1750–74) a Robert Burns (1759–96), gerddi yn Saesneg hefyd.

Yn hanner cyntaf y 19g, y llenor Saesneg pwysicaf o'r Alban oedd y nofelydd a bardd Syr Walter Scott (1771–1832), sy'n nodedig am ei nofelau hanesyddol yn ymwneud ag hanes yr Alban. Ymhlith llenorion Saesneg Albanaidd eraill y 19g mae'r bardd a nofelydd James Hogg (1770–1835), yr ysgrifwr ac hanesydd Thomas Carlyle (1795–1881), a'r nofelydd Margaret Oliphant (1828–1897). Un o'r ffuglenwyr enwocaf o'r wlad yw Robert Louis Stevenson (1850–94), awdur Treasure Island (1881), Kidnapped (1886), a Strange Case of Dr Jekyll and Mr Hyde (1886). Albanwr hefyd oedd Syr J. M. Barrie, creawdwr y cymeriad Peter Pan.

Ymhlith ffuglenwyr yr 20g mae Compton Mackenzie (1882–1972), George Mackay Brown (1921–96), a'r Fonesig Muriel Spark (1918–2006). Treuliodd Alasdair Gray (g. 1934) rhyw 30 mlynedd yn ysgrifennu'r nofel chwyldroadol Lanark (1981) sy'n cyfuno realaeth a swrealaeth i bortreadu dystopia Glasgow. Mae sawl awdur o'r Alban yn niwedd yr 20g a dechrau'r 21g wedi ysgrifennu nofelau Saesneg sy'n boblogaidd ar draws y byd, gan gynnwys Alexander McCall Smith (g. 1948), Irvine Welsh (g. 1958), Ian Rankin (g. 1960), a J. K. Rowling (g. 1965).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]