Llenyddiaeth Saesneg y Caribî

Oddi ar Wicipedia

Ni datblygodd lenyddiaethau cenedlaethol yng ngwledydd Saesneg y Caribî nes ail hanner yr 20g. Ysgrifennwyd nifer o nofelau yn nhafodieithoedd yr ynysoedd, gan gynnwys New Day (1949) gan Victor Stafford Reid (1913–87), A Brighter Sun (1952) a The Lonely Londoners (1956) gan Sam Selvon (1923–94), In the Castle of My Skin (1953) gan George Lamming (g. 1927), a Mystic Masseur (1957) ac A House for Mr Biswas (1961) gan V. S. Naipaul (1932–2018). Defnyddir iaith debyg ym marddoniaeth Louise Bennett-Coverley (1919–2006), er enghraifft ei chyfrol Jamaica Labrish (1966). Er hynny, bu nifer o lenorion y Caribî yn ceisio efelychu meddylfryd cyffredinol yn eu gwaith, megis C. L. R. James (1901–89) a'r bardd Derek Walcott (1930–2017).

Jamaica[golygu | golygu cod]

Y llenor cyntaf i gyfrannu at greu llenyddiaeth genedlaethol yn Jamaica oedd Thomas MacDermot neu Tom Redcam (1870–1933), a fu'n fardd llawryfog cyntaf ei famwlad ac yn olygydd y Jamaica Times am ugain mlynedd. Sefydlodd y gyfres "All Jamaica Library" gyda'i nofel Becka's Buckra Baby (1903). Prif awdur Jamaicaidd arall y cyfnod oedd H. G. de Lisser (1878–1944), newyddiadurwr a nofelydd sydd yn nodedig am ei ramantau hanesyddol.

Barbados[golygu | golygu cod]

Un o lenorion gwychaf Barbados yw George Lamming (g. 1927), awdur y nofelau In the Castle of My Skin (1953) a The Emigrants (1954), a fu'n gweithio'n athro a darlledwr ar draws y Caribî ac yn Lloegr a'r Unol Daleithiau. Ymhlith yr awduron nodedig eraill o ynys Barbados mae Geoffrey Drayton (g. 1924) ac Austin Clarke (1934–2016),

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]