Llenyddiaeth Gatalaneg

Oddi ar Wicipedia
Tirant lo Blanc, gan Joanot Martorell, argraffiad 1490

Mae llenyddiaeth Gatalaneg yn llenyddiaeth gyda hanes hir iddi, a ysgrifennir yn yr iaith Gatalaneg, iaith frodorol Catalonia.

Mae hanes llenyddiaeth Gatalaneg yn dechrau yn yr Oesoedd Canol. Yn y 19g dosbarthwyd y llenyddiaeth honno mewn cyfnodau gan ysgrifenwyr Rhamantaidd y mudiad deffroad cenedlaethol a elwir yn Renaixença ('Adfywiad' neu 'Dadeni'). Roedd y llenorion hyn yn ystyried canrifoedd hir y Decadència, a olynodd Oes Aur llenyddiaeth Valencia, fel cyfnod o dlodi creadigol heb fawr ddim o werth. Erbyn, fodd bynnag, mae newid barn wedi digwydd wrth i'r Cataloniaid ail-ystyried eu hanes yn gyffredinol. Ar ôl adfywiad y 19g wynebai llenyddiaeth Gatalaneg amser anodd ar ddechrau'r 20g, yn arbennig yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen. Gorfodwyd nifer o fedddylwyr gorau'r wlad i ffoi i alltudiaeth a bu rhaid aros tan yr adferwyd democratiaeth yng Nghatalonia ar ddiwedd y ganrif honno i lenyddiaeth a diwylliant Catalonia adennill eu lle yn y gymdeithas.

Gwreiddiau[golygu | golygu cod]

Datblygodd yr iaith Gatalaneg, sy'n un o'r ieithoedd Romáwns, o Ladin Cyffredin yn yr Oesoedd Canol, gan dyfu'n iaith ar wahân. Dechreuodd llenyddiaeth Gatalaneg gyda'r testun crefyddol defosiynol Homilies d'Organyà (diwedd yr 11eg neu ddechrau'r 12g.

Cydnabyddir y llenor Ramon Llull (13g), fel un o lenorion mwyaf yr iaith Gatalaneg yn yr Oesoedd Canol a gychwynnodd draddodiad llenyddol Catalaneg a safai ar wahân i'r byd Ocitaneg ei iaith, a hefyd fel athronydd a bathwr nifer o eiriau newydd. Ymhlith ei weithiau ceir y Llibre de Meravelles (sy'n cynnwys y Llibre de les bèsties) a Blanquerna (sy'n cynnwys Llibre d'Amic e Amat, fersiwn Gatalaneg o'r chwedl a geir yn Gymraeg Canol dan yr enw Kedymdeithyas Amlyn ac Amic ac fel y ddrama Amlyn ac Amig gan Saunders Lewis yn yr 20g).

Yr Oesoedd Canol a'r Dadeni[golygu | golygu cod]

Les quatre grans cròniques[golygu | golygu cod]

Mae'r pedwar llyfr hyn, o'r 13eg a'r 14g, yn croniclo hanes brenhinoedd ac uchelwyr Aragon:

Tirant lo Blanc[golygu | golygu cod]

Wedi ei ysgrifennu gan Joanot Martorell, mae Tirant lo Blanc yn rhamant arwrol a fu un o lyfrau mwyaf dylanwadol ei gyfnod, ac efallai'r llyfr mwyaf yn yr iaith Catalaneg tan y 19g.

Awduron eraill o'r cyfnod[golygu | golygu cod]

La Decadència[golygu | golygu cod]

Dyma'r enw ar y cyfnod rhwng y 15fed a'r 19g. Fe'i gelwir felly am fod yr iaith frodorol wedi syrthio allan o ffasiwn a choli nawdd yr uchelwyr. Gwelir hyn gan rai fel rhan o'r broses ehangach o Gastileiddio Sbaen a'r esgeuluso ar fuddiannau Aragon yn sgîl uno coronau Castile ac Aragon. O leiaf dyna oedd barn Rhamantwyr y Renaixença, ond heddiw mae newid barn ar werth llenyddol a diwylliannol y cyfnod yn digwydd.

Renaixença[golygu | golygu cod]

Nid oedd y Rhamantwyr cynnar yng Nghatalonia a'r Ynysoedd Balearig yn barod i ddefnyddio'r Gatalaneg ond yn dewis llenydda yn Sbaeneg, ond bu newid gyda geni'r mudiad Renaixença fel rhan o'r adfywiad cenedlaethol yng Nghatalonia. Un o sefydlwyr y mudiad hwnnw oedd Bonaventura Carles Aribau gyda'i gerdd Oda a la Pàtria. Fel sawl mudiad Rhamantaidd cenedlaethol arall yn y cyfnod, troes y Renaixença at yr Oesoedd Canol am ysbrydoliaeth, ond ar yr un pryd ceisiai gyfoethogi'r iaith a'i moderneiddio. Roedd realaeth a naturiaeth yn ddylanwadau pwysig hefyd. Un arall o lenorion y mudiad oedd Jacint Verdaguer, awdur epig genedlaethol y wlad.

Moderniaeth[golygu | golygu cod]

Roedd moderniaeth Gatalaneg yn olynydd naturiol i'r Renaixença, gan ddal i arddangos diddordeb mewn Rhamantiaeth ond ar yr un pryd yn ymddiddori mewn themau duach, fel trais ac elfennau duach natur. Ym myd barddoniaeth, roedd yn dilyn yn agos y Parnassiaid a'r Symboliaid. Rhennid y mudiad yn Bohèmia Negra, dan ddylanwad y Decadentiaid, a llenorion mwy asthetaidd, a elwir yn Bohèmia Daurada neu Bohèmia Rosa. Mae Santiago Rusiñol, Joan Maragall a Joan Puig i Ferreter ymhlith y llenorion pwysicaf a gysylltir a'i mudiad.

Noucentisme[golygu | golygu cod]

Daeth y mudiad diwydiannol a gwleiddyddol a elwir yn Noucentisme i'r amlwg ar ddechrau'r 20g. Roedd ei Glasuriaeth yn adwaith i waith y modernwyr ac yn seiledig ar athroniaeth natur-ganolog, a geisiai greu lenyddiaeth gain. Barddoniaeth oedd hoff gyfrwng Noucentisme, fel a welir yng ngherddi Josep Carner a Carles Riba.

Llenyddiaeth Gatalaneg gyfoes[golygu | golygu cod]

Ar ôl cyfnod o obaith a thyfiant cyf;ym, daeth Rhyfel Cartref Sbaen a llywodraeth Francisco Franco a arweiniodd at alltudiaeth i nifer o lenorion, a gwaharddwyd defnydd cyhoeddus o'r iaith Gatalaneg, ynghyd â symbolau cenedlaethol a sawl agwedd arall ar ddiwylliant Catalonia. Mewn canlyniad, mewn gwledydd estron y cynhyrchwyd y rhan fwyaf o lenyddiaeth Gatalaneg y cyfnod. Ar ôl cwymp Ffranco a'r adfywiad mewn democratiaeth, mae bywyd llenyddol a'r iaith Gatalaneg yn blodeuo eto.

Mae llenorion o'r cyfnod hwn yn cynnwys Mercè Rodoreda, Salvador Espriu, Manuel de Pedrolo a Quim Monzó.

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]

  • Comas, Antoni. La decadència. Sant Cugat del Vallès: A. Romero, 1986.
  • Elliott, J.H. Imperial Spain 1469-1716. Llundain: Penguin, 2002.
  • Riquer, Martí de. Història de la literatura catalana. 6 cyf. Barcelona: Editorial Ariel, 1980.
  • Terry, Arthur. A Companion to Catalan Literature. Woodbridge, Suffolk / Rochester, N.Y. : Tamesis, 2003.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

E-lyfrau (ffeiliau PDF, Saesneg)[golygu | golygu cod]