Joanot Martorell

Oddi ar Wicipedia
Joanot Martorell
Ganwyd1413, c. 1413, 1410 Edit this on Wikidata
Valencia Edit this on Wikidata
Bu farw1465, Ebrill 1465 Edit this on Wikidata
Valencia, Barcelona Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Valencia Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amTirant lo Blanc Edit this on Wikidata

Joanot Martorell (14131468),[1] yn enedigol o Valencia, oedd awdur y nofel ganoloesol Tirant lo Blanch, a ysgrifennwyd yn Gatalaneg, ("iaith frodorol Valencia," "vulgar llengua valenciana", chwedl Martorell). Cafodd yr argraffiad cyntaf ei gyhoeddi yn ninas Valencia yn 1490 a chafwyd ail argraffiad yn Barcelona yn 1497.

Nofel yw Tirant lo Blanch am anturiaethau'r marchog Tirant yn yr Ymerodraeth Fysantaidd, sy'n adleisio hanes Catrawd Catalonia yn Ngroeg ac Asia Leiaf yn yr un cyfnod. Mae'r awdur Sbaeneg Miguel de Cervantes, mewn pennod am losgi llyfrau yn ei lyfr enwog Don Quixote, yn peri i arwr ei lyfr ddweud mai Tirant lo Blanch yw'r llyfr gorau am anturiaethau o'r math. Roedd Martorell ei hun yn ŵr a gredai mewn sifalri. Bu farw'n ifanc mewn canlyniad i gynllwyn yn llys Valencia, a'i gyfaill Marti Joan de Galba a orffennodd y nofel.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mediaevalia (yn Saesneg). Center for Medieval and Early Renaissance Studies, State University of New York at Binghamton. 2000. t. 68.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.