Mercè Rodoreda

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Awdures Gatalaneg fwyaf adnabyddus yr 20fed ganrif oedd Mercè Rodoreda (10 Hydref 1908 - 13 Ebrill 1983).

Bywgraffiad[golygu]

Ganwyd Mercè Rodoreda yn Sant Gervasi (Barcelona).[1] Cafodd ei magu mewn cartref cyfforddus a thrigai mewn cymdogaeth dawel. Cafodd ei thaid ddylanwad amlwg yn natblygiad ei phersonoliaeth, am ei fod yntai'n ddyn deallus ac addysgodd ei ŵyres i garu llenyddiaeth a garddio. Bu ei farwolaeth ef, pan oedd Mercè yn ddeuddeg oed, yn ergyd drom iddi.

Yn 1928 priododd hi ei hewythr, Joan Gurguí (a oedd yn 13 mlynedd yn iau na hi) a chawsant eu hunig fab, Jordi Gurguí. Yn y cyfnod hwn, dewisodd Mercè Rodoreda lenyddiaeth fel ffordd o osgoi realiti, gan ddechrau gyrfa fawr a aeth o nerth i nerth. Yn 1938, cyhoeddwyd Aloma (y nofel a ystyriai'r awdures fel ei gwaith aeddfed cyntaf go iawn).

Bu farw yn Girona, ychydig cyn iddi dderbyn y Premi d'Honor de les Lletres Catalanes. Nid oes cyfieithiadau o'u gwaith i'r Gymraeg.

Cyfeiriadau[golygu]