Lee Harvey Oswald

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lee Harvey Oswald

Ffotograff o Lee Harvey Oswald a dynnwyd gan Adran Heddlu Dallas ar 23 Tachwedd 1963.
Ganwyd New Orleans, Louisiana, UDA
Bu farw 24 Tachwedd 1963 (24 oed)
Parkland Memorial Hospital
Dallas, Texas, U.S.
Achos marwolaeth Llofruddiwyd gan Jack Ruby
Man gorwedd Rose Hill Cemetery
Fort Worth, Texas
32°43′57″N 97°12′12″W / 32.732455°N 97.203223°W / 32.732455; -97.203223 (Burial site of Lee Harvey Oswald)
Cenedl Americanaidd
Enwau eraill Alek J. Hidell
O. H. Lee
Priod Marina Prusakova
(p. 1961–1963, ei farwolaeth)
Llofnod

Y saethwr cudd a lofruddiodd John F. Kennedy, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn Dallas, Texas, ar 22 Tachwedd 1963 oedd Lee Harvey Oswald (18 Hydref 1939 – 24 Tachwedd 1963), yn ôl archwiliadau gan yr FBI ym 1963, Comisiwn Warren ym 1964, Pwyllgor Dethol y Tŷ ar Fradlofruddiaethau ym 1979, ac Adran Heddlu Dallas.

Roedd Oswald yn gyn-Fôr-filwr a wnaeth ffoi i'r Undeb Sofietaidd ym mis Hydref 1959, ond symudodd yn ôl i'r Unol Daleithiau ym Mehefin 1962. Cafodd Oswald ei arestio am lofruddiaeth y heddwas J. D. Tippit, a gafodd ei ladd tua 45 munud wedi bradlofruddiaeth yr Arlywydd Kennedy. Cafodd Oswald ei gyhuddo'n hwyrach o lofruddiaeth yr Arlywydd Kennedy hefyd, ond gwadodd y ddau gyhuddiad. Dau ddiwrnod yn hwyrach, tra'n cael ei drosglwyddo o bencadlys Heddlu Dallas i ddalfa'r sir, cafodd Oswald ei saethu'n farw gan Jack Ruby wrth i gamerâu teledu ddarlledu'r digwyddiad yn fyw.

Daeth yr FBI, Heddlu Dallas, a Chomisiwn Warren i'r casgliad y wnaeth Oswald targedu Kennedy ar ben ei hunan, gan danio tair ergyd ato. Er tystiolaeth fforensig, balistig, ac amgylchiadol o blaid y theori hon, mae nifer o'r cyhoedd Americanaidd wedi gwrthod "theori'r un saethwr" (Saesneg: lone gunman theory).[1] Yn ôl adroddiad Pwyllgor Dethol y Tŷ ar Fradlofruddiaethau, Oswald oedd yn gyfrifol am saethu Kennedy'n farw ond "mae tystiolaeth acwstig wyddonol yn dangos tebygolrwydd uchel taw dau saethwr oedd yn saethu at yr Arlywydd John F. Kennedy".[2][3]

Cyfeiriadau[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: