Kos

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gweddillion yr agora yn nhref Kos
Planwydden Hippocrates

Ynys Roegaidd yw Kos neu Cos (Groeg: Κως; Twrceg: İstanköy; Eidaleg: Coo; Stanchio gynt yn Saesneg), a leolir yn y Dodecanese, yn ymyl Gwlff Cos. Mae'n mesur 40 wrth 8 km, ac yn gorwedd 4 km oddi ar arfordir Bodrum (yr Halicarnassos hynafol), Twrci. Poblogaeth: 30,500. Roedd yn enwog yn yr Henfyd fel man enedigol Hippocrates.

Hanes[golygu]

Cafodd yr ynys ei choloneiddio gan y Cariaid yn gynnar iawn. Fe'i goresgynwyd gan y Doriaid yn y 11eg ganrif CC ac ymunodd â Chynghrair Delios. Dwywaith yn ystod y rhyfeloedd rhwng y Groegwyr a'r Persiaaid fe'i meddianwyd ond i gael ei rhyddhau yn ddiweddarach. Yn 366 CC codwyd tref Kos ei hun, ac yn fuan wedyn daeth yr ynys yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig ac ar ôl hynny yr Ymerodraeth Fysantaidd.

Am gyfnod cafodd ei meddianu gan Fenis a'i gwerthu i'r Ysbytwyr o Rhodes. Yna am 440 mlynedd bu'n rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid. Cafodd ei throsglwyddo i'r Eidal yn 1912. Ar ôl cyfnod byr ym meddiant yr Almaenwyr yn yr Ail Ryfel Byd, a'r Deyrnas Unedig ar ôl hynny, fe'i ildiwyd i Wlad Groeg yn 1947.

Hippocrates[golygu]

Credir i Hippocrates, "Tad Meddygaeth", gael ei eni yn Kos. Yng nghanol y dref ceir coeden hynafol a elwir Planwydden Hippocrates; dywedir ei bod yn dynodi safle hen deml. Mae Kos yn gartref i'r Sefydliad Hippocratig Rhyngwladol a'r Amgueddfa Hippoctratig a gysegir i'r ffisegydd enwog. Ger y Sefydliad mae adfeilion Asklepeion, lle hyfforddwyd Hippocrates gan Herodicus, yn ôl traddodiad.