Hippocrates

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hippocrates

Meddyg o Roegwr oedd Hippocrates (Groeg: Iπποκράτης, 'Ippokrátēs) (?c.460 CC - 377 CC neu 359 CC), a aned ar ynys Kos. Fel y mae Herodotus yn cael ei alw'n "Dad Hanes", gelwir Hippocrates yntau'n "Dad Meddygaeth". Hyd heddiw mae meddygon yn tyngu "Llw Hippocrataidd" wrth ymuno a'u galwedigaeth.

Roedd yn enwog iawn yn yr Henfyd fel ffisegydd ond ychydig sy'n hysbys amdano. Roedd yn feddyg proffesiynol a dderbynai dal am ei wasanaeth. mae'n bosibl ei fod wedi cael ei hyfforddi yn yr asklepeion yn Kos, a oedd yn adanbyddus iawn yn yr amser hwnnw. Ysgrifennai ar feddygaeth ond er bod casgliad o 72 o draethodau ar feddygaeth a llawfeddygaeth yn cael eu tadogi arno mae nhw bron i gyd yn waith a ysgrifenwyd gan ei ddisgyblion neu ei olynwyr yn ystod y ddau gan mlynedd ar ol ei farwolaeth.

Ceisiai Hippocrates wahaniaethu rhwng meddygaeth wyddonol a'r feddygaeth draddodiadol a fodolai yng Ngwlad Groeg a gwledydd eraill, ac felly gosododd sylfeini meddygaeth fodern. Serch hynny credai fod pedwar "hiwmor" neu hylif yn bodoli yn y corff - sef gwaed, fflem, llysnafedd felen a llysnafedd ddu - ac yn effeithio ar ei iechyd, damcaniaeth a fu'n sail i feddygaeth yn ysgolion meddygol Ewrop a'r byd Arabaidd tan y cyfnod modern.

O waith Hippocrates y daw'r ymadrodd Lladin adnabyddus Ars longa, vita brevis.