Kazimir Malevich

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Kazimir Malevich
Self-Portrait (1908 or 1910-1911).jpg
Hunanbortread, 1912
Byw 23 Chwefror 1879 – 15 Mai 1935
Cenedligrwydd Ymerodraeth Rwsia, Undeb Sofietaidd
Mudiad Suprematism
Gwaith enwocaf Sgwâr Ddu, 1915; Gwyn ar Wyn, 1918

Roedd Kazimir Severinovich Malevich[nb 1] (23 Chwefror 1879 – 15 Mai 1935) yn beintiwr a damcaniaethwr celf Rwsiaidd.[1] Roedd yn arloeswr celf haniaethol a phrif sylfaenydd y mudiad celfyddydol Suprematist yn seiliedig ar ffurfiau geometrig, fel cylchoedd, sgwariau a llinellau wedi'u peintio mewn dewis cyfyngedig o liwiau. [2][3]

Bywyd cynnar[golygu]

Fe ganwyd Kazimir Malevich yn Kazimierz Malewicz i deulu Pwylaidd,[4][5]a oedd wedi symud i fyw yn agos i Kiev (pryd hynny'n rhan o Ymerodraeth Rwsia; yn Wcráin heddiw) ar ôl ymraniad Gwlad Pwyl.

Suprematism[golygu]

Cyfansoddiad Suprematist, 1915

Yn 1915, fe osododd Malevich sylfaeni Suprematism pan gyhoeddodd ei maniffesto 'O Giwbiaeth i Suprematism'. Yn 1915-1916 gweithiodd gydag arlunwyr Supremataidd eraill mewn prosiect cydweithredol, gwerinol ym mhentrefi Skoptsi a Verbovka. Yn 1916-1917 cymerodd ran yn yr arddangosfa 'Jac o Ddiemyntau' ym Moscow gyda Nathan Altman, David Burliuk, Aleksandra Ekster ac eraill.

Mae enghreifftiau enwog o'i waith Suprematist yn cynnwys y Sgwâr Du' (1915)[6] a Gwyn ar Wyn (1918).

Wedi Chwyldro Rwsia[golygu]

Yn dilyn Chwyldro Rwsia (1917), fe ddaeth Malevich yn aelod o Goleg Gelf Narkompros, a Chomisiynwr y Pwyllgor Gwarchod Cofebion ac Amgueddfeydd. Dysgodd yn Ysgol Gelf Ymarferol Vitebsk yn yr Undeb Sofietaidd (yn awr yn Belarws) (1919–1922), Academi Celf Leningrad (1922–1927), a Sefydliad Celf Kiev (1927–1929), ac Ysgol Gelf Leningrad (1930).

Ysgrifennodd ei lyfr Y Byd Fel Di-wrthrychaeth, a gyhoeddwyd ym Munich ym 1926. Ynddo mae Malevich yn amlinellu syniadaeth 'Suprematist'.

Yn 1923, fe benodwyd Malevich yn gyfarwyddwr yn Sefydliad Diwylliant Celfyddydol Petrograd, a gafodd ei orfodi i gau ym 1926 ar ôl i bapur newydd Comiwnyddol ei alw yn "fynachdy dan nawdd y llywodraeth yn llawn pregethu meddwol gwrth-chwyldroadol."

Roedd y system Stalinaidd yn dechrau troi i hyrwyddo celfyddyd propaganda Realaeth fel yr unig ffuf celfyddydol derbynniol.[7]

Sais ym Moscow, 1914

Cydnabyddiaeth rhyngwladol a gwaharddiad[golygu]

Ym 1927 fe deithiodd Malevich i Warsaw lle derbyniodd groeso brwd[8]. Yno cyfarfu ag arlunwyr a'i gyn-fyfyrwyr Władysław Strzemiński a Katarzyna Kobro, oedd yn creu gwaith wedi'i ddylanwadu gan Malevich yn eu mudiad eu hun sef Unism.[9]

Fe aeth Malevich ymlaen i Berlin a Munich i arddangos ei waith gan dderbyn sylw rhyngwladol. Fe adawodd lawer o waith ar ôl pan ddychwelodd i'r Undeb Sofietaidd. Roedd Malevich yn rhagweld y byddai agweddai'r awdurdodau tuag at gelf fodern yn newid yn dilyn marwolaeth Lenin. Fe ddechreuodd llywodraeth Stalin rwystro celf haniaethol, gan ei hystyried yn bourgeois. Cafodd llawr o'i waith ei gipio ac fe waharddwyd rhag creu rhagor.

Marwolaeth[golygu]

Bu farw Malevich o ganser yn Leningrad ar 15 Mai 1935. Arddangoswyd y 'Sgwâr Du' uwchben ei wely angau, ac roedd galarwyr yn gallu chwifio baner yn dangos y 'Sgwâr Du'.[7] . Fe gladdwyd o dan dderwen wrth ymyl Nemchinovka.[10]

Marchnad gelf[golygu]

Ar 3 Tachwedd 2008 fe dorrwyd y record am bris uchaf a dalwyd am ddarn o gelf Rwsiaidd pan werthwyd un o weithiau Malevich, Cyfansoddiad Suprematist am US$60 miliwn yn Sotherby's, Efrog Newydd.

Mewn diwylliant poblogaidd[golygu]

Mae Malevich a'i waith yn ysbrydoli llawer o gyfeiriadau mewn diwylliant poblogaidd. Mae'r nofel boblogaidd Red Square gan Martin Cruz yn ymwneud â smyglo darlun Malevich o Rwsia tra bod nofel Noah Charney The Art Thief yn hanes dwyn gwaith Malevich ac yn trafod effaith gwaith radicalaidd Malevich ar y byd celf. Mae gwaith Malevich hefyd yn amlwg yn ffilm Lars Von Trier Melancholia, 2011.

Mae'r grŵp roc-diwydiannol Slofenaidd Laibach wedi defnyddio'r “Sgwâr Du” yn eu logo a phosteri [11]. Mae label recordiau Cymraeg Recordiau Ankst yn defnyddio logo a chefndir i'w wefan a ddylanwadwyd gan Malevich[12].

Oriel[golygu]

Troednodiadau[golygu]

  1. Rwsieg: Казими́р Севери́нович Мале́вич [kɐzʲɪˈmʲir sʲɪvʲɪˈrʲinəvʲɪt͡ɕ mɐˈlʲevʲɪt͡ɕ], Pwyleg: Kazimierz Malewicz, Nodyn:Iaith-uk Nodyn:IPA-uk, Nodyn:Iaith-be Nodyn:IPA-be, Almaeneg: Kasimir Malewitsch

Mynegai[golygu]

  1. Milner and Malevich 1996, p. X; Néret 2003, p. 7; Shatskikh and Schwartz, p. 84.
  2. "Malevich, Kasimir — A Dictionary of Twentieth-Century Art". Encyclopedia.com. http://www.encyclopedia.com/topic/Kazimir_Severinovich_Malevich.aspx. Adalwyd 2014-03-18. 
  3. "Casimir Malevich — The Columbia Encyclopedia, Sixth Edition". Encyclopedia.com. http://www.encyclopedia.com/doc/1E1-Malevich.html. Adalwyd 2014-03-18. 
  4. Andrzej Turowski, Malewicz W Warszawie: Rekonstrukcje i Symulacje Universitas 2002, ISBN 8370524869.
  5. N.D. (26 July 2013), Walczą o polskość Malewicza (Advocating the Polishness of Malewicz) Nowy Dziennik.
  6. Drutt and Malevich 2003, p. 243.
  7. 7.0 7.1 Journal of the American Medical Association (JAMA), Volume 305, Number 11 (March 16, 2011), p. 1066
  8. Turowski, Andrzej. Malewicz w Warszawie: Rekonstrukcje i Symulacje [Malevich in Warsaw: Reconstructions and Simulations]. Cracow: Universitas, 2002.
  9. "The Collection | Suprematism". MoMA. http://www.moma.org/collection/theme.php?theme_id=10202. Adalwyd 2014-03-18. 
  10. Sophia Kishkovsky (Awst 30, 2013), Malevich’s Burial Site Is Found, Underneath Housing Development New York Times.
  11. http://wtc.laibach.org/ceci-nest-pas-malevich
  12. http://ankst.co.uk/

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni Allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Wikiquote
Mae gan Wikiquote gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i: