Jesse Owens

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Jesse Owens

Athletwr trac a chae Americanaidd oedd James Cleveland "Jesse" Owens (12 Medi 191331 Mawrth 1980). Cystadleuodd Owens yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1936 yn Berlin, yr Almaen, lle enillodd enwogrywdd rhyngwladol pan enillodd bedair medal aur: yn y ras 100 medr, 200 medr, y naid hir, a'r ras gyfnewid 4x100 medr.

Plentyndod[golygu]

Ganwyd James Cleveland Owens yn Lawrence County, Alabama, yng nghmuned Oakville, yn fab i Henry ac Emma Owens. Pan oedd Owens yn naw oed, symudodd ei dad i ardal Glenville yng Nghleveland, Ohio. Cafodd Owens yr enw Jesse gan athro yn Cleveland nad oedd yn deall ei acen pan ddywedodd Owens mai J.C. oedd ei enw.

Nid oedd bywyd y teulu'n llewyrchus yn y geto. Roedd Owens wedi cymryd nifer o swyddi gwahanol yn ei amser sbâr: roedd wedi dosbarthu nwyddau, llwytho nwyddau ar drenau a gweithio mewn siop grydd.[1] Yn ystod y cyfnod hwn y cafodd flas ar redeg.

Trwy gydol ei fywyd, rhoddodd Owens y clod am ei lwyddiant mewn athleteg i'r anogaeth a dderbyniodd gan Charles Riley, ei hyfforddwr trac yn yr ysgol uwchradd-iau, Fairview Junior High, a oedd wedi rhoi Owens yn y tîm trac (gweler hefyd Harrison Dillard, athletwr o Cleveland a ysbrydolwyd gan Owens). Gan fod Owens yn gweithio yn y siop grydd ar ôl ysgol, caniataodd Riley ef i ymarfer yn y bore cyn mynd i'r ysgol yn lle hynny.

Daeth Owens i sylw cenedlaethol pan oedd yn fyfyriwr yn East Technical High School, Cleveland; pan redodd 100 metr mewn amser o 9.4 eiliad, a oedd yn amser cyfartal â record y byd ar y pryd, a neidiodd bellter o 24 troedfedd 9 ½ modfedd (7.56 m) yn y naid hir ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol yr Ysgolion Uwchradd yn 1933, yn Chicago.[2]

Talaith Ohio[golygu]

Mynychodd Owens Brifysgol Talaith Ohio, ond dim ond ar ôl i swydd gael ei ganfod ar gyfer ei dad, er mwyn cadarnhau y byddai'r teulu'n cael nawdd ariannol. Roedd yn cael ei adnabod fel "Buckeye Bullet" ac enillodd record o wyth pencampwriaeth NCAA, pedwar ym 1935 a phedwar ym 1936. Dim ond Xavier Carter yn 2006, sydd wedi gallu dod yn gyfartal â'r record hwn, ond roedd ei record ef yn cynnwys pencampwriaethau fel rhan o dîm yn y ras gyfnewid. Ond, tra bod Owens yn mwynhau llwyddiant yn athletau, roedd yn rhaid iddo fyw oddiar y campws ynghyd ag athletwyr eraill Affricanaidd-Americanaidd. Pan oedd Owens yn teithio gyda'r tîm, roedd yn rhaid iddo fwyta bwyd parod neu fwyta mewn bwytai "duon-yn-unig". Roedd rhaid hefyd iddo gysgu mewn gwesty "duon-yn-unig", ar wahan i'w dîm. Ni dderbyniodd Owens erioed ysgoloriaeth, felly bu'n raid iddo ddal ati i weithio'n rhan amser er mwyn gallu talu am ei addysg.[1]

Mwynhaodd Owens ei lwyddiant mwyaf mewn cyfnod o 45 munud ar 25 Mai 1935 yng nghyfarfod y Big Ten yn Ann Arbor, Michigan, pan osododd tair record y byd a dod yn gyfartal gyda un. Daeth yn hafal gyda record y byd y sbrint 100 llath (91 m) mewn 9.4 eiliad, a gosododd recodiau'r byd yn y naid hir (26'8¼" / 8.13 m), record a barhaodd 25 mlynedd cyn cael ei dorri. Torrodd record y sbrint 220 llath (201.2 m) mewn 20.7 eiliad, a'r ras glwydau 220 llath (201.2m) mewn 22.6 eiliad, y person cyntaf erioed i offen y ras mewn llai na 23 eiliad.[3]

Roedd Owens yn aelod o Alpha Phi Alpha, y gymdeithas rhyng-golegol llythyren Groeg cyntaf a sefydlwyd ar gyfer Americanwyr Affricanaidd.

Gemau Olympaidd Berlin[golygu]

Ym 1936, cyrhaeddodd Owens Berlin i gynyrchioli'r Unol Daleithiau yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1936. Roedd Adolf Hitler yn defnyddio'r gemau i arddangos yr Almaen Natsïaidd newydd i'r byd.[4] Roedd ganddo ef a swyddogion y llywodraeth obeithion y byddai'r chwaraewyr Almaenig yn domineiddio'r gemau gyda'u llwyddiant (ac mae'n wir mai'r Almaen a enillodd y nifer fwyaf o fedalau). Yn y cyfamser, roedd propaganda Natsïaidd yn hybu'r cysyniad o "rhagoriaeth yr hil Ariaidd" gan ddarlunio Affricanwyr ethnig a nifer o drasau eraill i fod yn israddol.[4]

Syfrdanwyd nifer gan gampau Owens[4] pan enillodd bedair medal aur: ar 3 Awst 1936, enillodd y sbrint 100 medr, gan guro Ralph Metcalfe; y naid hir ar 4 Awst (rhoddodd gredyd i'w gyd-gystadleuwr Luz Long, yn ddiweddarach am gynnig cyngor defnyddiol a chyfeillgar iddo[5]); enillodd y sbrint 200 medr ar 5 Awst; yn dilyn hynnu fe ategwyd ef i'r tîm ar gyfer y ras gyfnewid, ac enillodd ei bedwerydd medal yn y ras hwnnw ar 9 Awst. Ni ddaeth neb yn gyfartal îa'r camp hwn tan i Carl Lewis ennill pedwar medal aur yn yr un cystadlaethau yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1984.

Cyn cyhwyn y rasus, fe ymwelodd Adi Dassler, sefydlydd Adidas, a'r pentref Olympaidd, gan ddod a chês dillad llawn esgidiau. Fe berswadiodd ef Owens i'w defnyddio, a dyma oedd y tro cyntaf erioed i athletwr Americaneg-Africanaidd gael ei noddi.[6]

Mae ei fuddugoliaeth yn y naid hir wedi ei gofnodi, ynghyd a nifer o gystadlaethau eraill 1936, yn ffilm 1938 Olympia gan Leni Riefenstahl.

Teyrngedau[golygu]

Mae Jesse Owens wedi derbyn sawl teyrnged ers ei farwolaeth. Ym 1984, ail-enwyd stryd sy'n agos at Stadiwm Olympiadd Berlin yn Jesse-Owens-Allee, ac enwyd ysgol uwchradd Jesse Owens Realschule/Oberschule ym Merlin-Lichtenberg, ar ei ôl. Mae dau stamp post wedi cael eu cyhoeddi yn yr Unol Daleithiau er mwyn anrhydeddu Owens, un ym 1990 ac un arall ym 1998. Mae hefyd Jesse Owens Medical Plaza yn Phoenix, Arizona, a leolir ar gornel de-ddwyreiniol Baseline Road a Jesse Owens Parkway, a gafodd ei enwi ar ei ôl ef hefyd. Yr enw ar stadiwm trac a chae Prifysgol Talaith Ohio yw'r Jesse Owens Memorial Stadium, a gysegrwyd yn 2001, ac mae dau ganolfan hamdden ar gyfer myfyrwyr a staff hefyd wedi eu enwi ar mwyn ei goffa. O'r enw Cymraeg 'Owain', wrth gwrs y daw'r fersiwn Seisnig 'Owens'.

Cafodd Jesse Owens ei sefydlu yn Neuadd Enwogion Talaith Alabama ym 1970. Derbyniodd wobr Y Fedal Ryddid Arlywyddol ym 1976 gan Gerald Ford ac, ar ôl ei farwolaeth, Y Fedal Aur Cyngresol gan George H. W. Bush ar 28 Mawrth 1990. Cysegrwyd parc i'w anrhydeddu, sef y Jesse Owens Memorial Park, yn y dref lle'i ganwyd, sef Oakville, yn 1996, ac ar yr un adeg teithiodd y Ffagl Olympaidd drwy'r gymuned, 60 mlynedd ar ôl ei fuddugoliaeth Olympaidd.

Roedd erthygl yn y Wall Street Journal, 7 Mehefin 1996, a oedd yn dilyn agoriad y Jesse Owens Memorial Park. Yn y parc mae arysgrif a ysgrifennwyd gan y bardd Charles Ghigna:

May his light shine forever as a symbol
for all who run for the freedom of sport,
for the spirit of humanity,
for the memory of Jesse Owens.

Yn 1980 galwyd asteroid newydd ar ei ôl: (6758) Jesseowens.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg)  Bywgraffiad. jesseowens.com.
  2. (Saesneg)  Jesse Owens: Track & Field Legend: Biography.
  3. Lacey Rose, The Single Greatest Athletic Achievement November 18, 2005 published in Forbes.com
  4. 4.0 4.1 4.2 Susan D. Bachrach. The Nazi Olympics: Berlin 1936. ISBN 0316070874
  5.  Schwartz Larry (2007). Owens pierced a myth. ESPN.com.
  6.  How Adidas and Puma were born.

Dolenni allanol[golygu]