Tucson
| Tucson | |
|---|---|
| Lleoliad o fewn Arizona | |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Ardal | Arizona |
| Llywodraeth | |
| Awdurdod Rhanbarthol | Rheolwr-Cynghorol |
| Maer | Jonathan Rothschild |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 588.0 km² |
| Uchder | 728 m |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 520,116 (Cyfrifiad 2008) |
| Dwysedd Poblogaeth | 1,078.8 /km2 |
| Metro | 989,569 |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Cylchfa Amser | MST (UTC-7) |
| Gwefan | http://cms3.tucsonaz.gov/ |
Dinas yw Tucson yn Arizona, yr Unol Daleithiau (UDA), sy'n ddinas sirol Swydd Pima, Arizona. Fe'i lleolir 118 milltir (188 km) i'r de-ddwyrain o Phoenix a 60 milltir (98 km) i'r gogledd o'r ffin rhwng UDA a Mexico. Poblogaeth: 525,529 (2006) gyda 1,023,320 yn byw yn yr ardal fetropolitaidd (2008). Yn 2005, Tucson oedd y ddinas 32fed fwyaf yn yr Unol Daleithiau a'r 52fed fwyaf ardal fetropolitaidd. Hi yw'r ddinas fwyaf yn ne Arizona a'r ail fwyaf yn y dalaith gyfan. Lleolir Prifysgol Arizona yn Tucson. Mae'n gorwedd ar lannau Afon Santa Cruz.
Mae'r maesdrefi mawr yn cynnwys Oro Valley, Marana, Sahuarita, a South Tucson. Mae cymunedau cyfagos, rhai ohonynt yn rhannol yn y ddinas, yn cynnwys Casas Adobes, Catalina, Catalina Foothills, Flowing Wells, Green Valley, Tanque Verde, New Pascua, Vail a Benson.
Mae'r enw Tucson yn deillio o'r enw Sbaeneg ar y ddinas, Tucsón, a fenthycwyd o'r enw O'odham (Indiaidd) Cuk Ṣon, sy'n golygu "wrth odre'r [mynydd] du", sy'n gyfeiriad at fynydd folcanig ger llaw. Yn Arizona, cyfeirir at Tucson weithiau fel "The Old Pueblo".
Gefeilldrefi Tucson [golygu]
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol dinas Tucson