Swydd Roscommon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Swydd Roscommon

Un o siroedd traddodiadol Iwerddon sy'n gorwedd yng Ngweriniaeth Iwerddon yw Swydd Roscommon (Gwyddeleg Contae Ros Comáin; Saesneg County Roscommon). Mae'n rhan o dalaith Connacht. Ei phrif ddinas yw Roscommon (Ros Comáin).

Allforiwyd defaid Roscommon i Ben Llŷn rhwng 1810-15 gan Dishley Leicester o'r Iwerddon a Lloyd Edwards, Nanhoron a'i gyfaill Syr Watkin Williams-Wynn (Yr Arglwydd Mostyn), Ystâd Cefn Amwlch o Gymru. O fewn pedair blynedd o werthu'r ddafad i'w tenantiaid a'u bridio efo hwrdd Cymreig, roedd yr epil yn ddafad bur ac fe'i galwyd yn "ddafad Llŷn".[1] Mae nhw'n gweddu i dir gwastad y dyffryn yn ogystal a thir mynydd.[2]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Fferm a Thyddyn, Calan Mai 2014, rhif 53. Awdur: T. Rees Roberts.
  2. "The Breed". Lleyn Sheep Society. http://www.lleynsheep.com/. Adalwyd 8-06-2014.