James Wolfensohn

Oddi ar Wicipedia
James Wolfensohn
Ganwyd1 Rhagfyr 1933 Edit this on Wikidata
Sydney Edit this on Wikidata
Bu farw25 Tachwedd 2020 Edit this on Wikidata
Manhattan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Awstralia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Sydney
  • Ysgol Fusnes Harvard Edit this on Wikidata
Galwedigaetheconomegydd, banciwr, ffensiwr, gwleidydd, cyfreithiwr, cyfreithegwr, rheolwr, cyfranogwr fforwm rhyngwladol Edit this on Wikidata
SwyddLlywydd Banc y Byd Edit this on Wikidata
Gwobr/auKBE, Doctor Anrhydeddus o'r Brifysgol Hebraeg, Jerusalem, Gwobr Doethuriaeth Ben Gourion, Theodor Heuss Award, Gwobr Leo-Baeck, Urdd Cyfeillgarwch, Order of the Golden Fleece, Honorary Officer of the Order of Australia, Great Immigrants Award, Grand Cordon of the Order of the Rising Sun Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.wolfensohn.com/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon
llofnod

Bancwr a noddwr y celfyddydau Awstralaidd sy'n byw yn yr Unol Daleithiau oedd Syr James David Wolfensohn AO (1 Rhagfyr 193325 Tachwedd 2020) oedd yn Llywydd Banc y Byd o 1995 hyd 2005.[1]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd James Wolfensohn yn Awstralia ar 1 Rhagfyr 1933. Enillodd BA ac LLB o Brifysgol Sydney ac MBA o Ysgol Fusnes Harvard. Cyn iddo mynychu Harvard roedd yn gyfreithiwr yn y ffyrm Allen Allen & Hemsley. Gwasanaethodd fel swyddog yn Awyrlu Brenhinol Awstralia ac roedd yn aelod o dîm cleddyfa Awstralia yng Ngemau Olympaidd 1956.[1]

Gyrfa busnes[golygu | golygu cod]

Symudodd Wolfensohn i Lundain i weithio fel bancwr masnachol, ac yna symudodd i Ddinas Efrog Newydd i weithio ar Wall Street.[2]

Roedd Wolfensohn yn Llywydd ac yn Brif Weithredwr cwmni ei hunan, James D. Wolfensohn Inc, cwmni buddsoddi oedd yn cynghori corfforiaethau yn yr Unol Daleithiau ac o gwmpas y byd. Rhoddodd y gorau i'w ran yn y cwmni pan ymunodd â Banc y Byd. Roedd Wolfensohn hefyd yn Bartner Gweithredol yn Salomon Brothers, Dinas Efrog Newydd, am 10 mlynedd ac yn bennaeth yr adran fancio buddsoddi gan arwain ad-drefniant y Chrysler Corporation.[3] Roedd yn Ddirprwy Gadeirydd Gweithredol ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr Schroeder’s Ltd yn Llundain, yn Llywydd J. Henry Schroeder’s Banking Corporation yn Ninas Efrog Newydd, ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr Darling & Co yn Awstralia.[1]

Ymunodd â bwrdd Neuadd Carnegie ym 1970 ac roedd yn gadeirydd y bwrdd o 1980 hyd 1991. Arweiniodd adnewyddiad yr adeilad yn ystod y cyfnod hwnnw. Daeth yn Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Canolfan Kennedy yn Washington, D.C. ym 1990.[1]

Teithiodd Wolfensohn i nifer o wledydd datblygol yn ystod ei yrfa busnes i drafod cytundebau buddsoddi, a darllenodd gweithiau'r economegydd Barbara Ward ar ddatblygiad. Roedd hefyd yn aelod bwrdd y Cyngor Busnes dros Ddatblygiad Cynaladwy a'r Cyngor Pobolgaeth, ac yn ymddiriedolwr y Brookings Institution, cyn iddo ddod yn Llywydd Banc y Byd.[3]

Llywyddiaeth Banc y Byd[golygu | golygu cod]

Roedd James Wolfensohn yn Llywydd Banc y Byd o 1 Mehefin 1995 hyd 31 Mai 2005. Penderfynodd Wolfensohn i ddychwelyd at bwrpas gwreiddiol y Banc, i leihau tlodi byd-eang, wedi i'r Banc treulio blynyddoedd yn mynd i'r afael ag argyfyngau ariannol rhyngwladol. O dan arweiniad Wolfensohn, canolbwyntiodd y Banc ar frwydro llygredigaeth ac ar roi mwy o sylw i gymunedau tlawd y byd. Cynyddodd ddatganoli o fewn y sefydliad a datblygodd y fiwrocratiaeth yn fwy technolegol ac yn fwy agored. Yn ystod ei lywyddiaeth teithiodd Wolfensohn i fwy na 120 o wledydd gan gwrdd â phobl o bob haen o gymdeithas.[1]

Tymor cyntaf (1995–1999)[golygu | golygu cod]

Ym Mawrth 1995 cafodd Wolfensohn ei argymell gan yr Arlywydd Bill Clinton i olynu Lewis T. Preston, Llywydd Banc y Byd, oedd yn dioddef o ganser.[4] Bu farw Preston ar 4 Mai 1995. Roedd Wolfensohn yn gyfaill i Preston ac yn ei edmygu, ac anelodd i barhau â nod Preston o ailddatgan pwrpas y Banc yn ystod ei lywyddiaeth, yn enwedig wrth i'r 1990au wynebu datblygiad cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd a thlodi dirfawr yn yr Affrig is-Saharaidd.[3]

Ei brosiect mawr cyntaf oedd rhyddhad dyled i wledydd tlawd. Lluniodd restr o "Gwledydd Tlawd Uchel eu Dyled" (HIPCs) a gosododd meini prawf am ddarparu cymorth ar y cyd â'r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF). Beirniadwyd y cynllun gan nifer o sefydliadau anlywodraethol am fod yn annigonol, ond enillodd Wolfensohn gefnogaeth gan lywodraethau, gan gynnwys y Deyrnas Unedig, i ychwanegu mwy o wledydd datblygol i'r cynllun ac i leihau'r cyfnod cyn yr oeddent yn gymwys am ryddhad dyled. Gweithiodd hefyd gyda'r mudiad Jubilee 2000 er budd y cynllun.[2]

Ail dymor (2000–2005)[golygu | golygu cod]

Wolfensohn gyda Vladimir Putin, Arlywydd Rwsia, ar 7 Hydref 2000.

Yn Nhachwedd 1999 cafodd Wolfensohn ei ail-benodi'n Llywydd Banc y Byd gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr Gweithredol, a daeth yn yr unig Llywydd ers Robert McNamara i wasanaethu ail dymor yn y swydd[2] a'r trydydd yn hanes y Banc.[1] Yn ei ail dymor ymdrechodd Wolfensohn i rymuso (empower) pobl dlotaf y byd trwy strategaeth newydd i roi pobl yn ganolog i weithredoedd y Banc, ac anelodd i foddhau carfanau pwyso oedd yn feirniadol o fiwrocratiaeth y Banc. Cafodd ei alw'n "llefarydd tlodion y byd" gan y BBC.[2]

Ers Banc y Byd[golygu | golygu cod]

Wolfensohn ac Ysgrifennydd Tramor yr Unol Daleithiau Condoleezza Rice yn siarad i'r wasg ar ôl cyfarfod ar 1 Mai 2006, ar ddiwedd ei gyfnod yn gennad arbennig i'r Pedwarawd ar y Dwyrain Canol.

Ar ôl gadael Banc y Byd dychwelodd Wolfensohn i fod yn gadeirydd Wolfensohn & Company LLC. Ymunodd hefyd â Citigroup, banc mwyaf y byd.[5]

Cafodd ei benodi'n gennad arbennig i'r Pedwarawd ar y Dwyrain Canol ar dynnu lluoedd a setlwyr Israelaidd o Lain Gaza, ond gadawodd y swydd ar ddiwedd Ebrill 2006.[6]

Yn 2010 cyhoeddwyd ei hunangofiant, A Global Life.[7]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Daeth James Wolfensohn yn ddinesydd Americanaidd. Mae ei wraig, Elaine, yn arbenigwraig addysg a chanddi raddau o brifysgolion o Wellesley (BA) a Columbia (MA ac MEd). Mae ganddynt dri phlentyn: Sara, Naomi, ac Adam.[1]

Roedd Wolfensohn yn canu'r soddgrwth.[3]

Gwobrau ac aelodaethau[golygu | golygu cod]

Derbynodd Urdd Awstralia ar 26 Ionawr 1987.[8] Cafodd ei urddo'n Farchog Anrhydeddus gan y Frenhines Elisabeth II ym Mai 1995. Mae James Wolfensohn yn Gymrawd Academi Americanaidd y Celfyddydau a'r Gwyddorau ac yn Gymrawd y Gymdeithas Athronyddol Americanaidd. Enillodd y Wobr David Rockefeller gyntaf gan yr Amgueddfa Gelfyddyd Fodern yn Efrog Newydd am ei waith i'r celfyddydau.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Voice for the World's Poor: Selected Speeches and Writings of World Bank President James D. Wolfensohn, 1995–2005 (Washington, D.C.: World Bank, 2005).
  • A Global Life: My Journey Among Rich and Poor, from Sydney to Wall Street to the World Bank (Efrog Newydd: PublicAffairs, 2010).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 (Saesneg) James D. Wolfensohn. Banc y Byd. Adalwyd ar 14 Mai 2013.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Plutocrat for the poor. BBC (14 Medi 2000). Adalwyd ar 14 Mai 2013.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 (Saesneg) Truell, Peter (13 Mawrth 1995). Man in the News; The Renaissance Banker: James David Wolfensohn. The New York Times. Adalwyd ar 15 Mai 2013.
  4. (Saesneg) Greenhouse, Linda (12 Mawrth 1995). Clinton to Recommend Wolfensohn to Head World Bank. The New York Times. Adalwyd ar 15 Mai 2013.
  5. (Saesneg) Dash, Eric (4 Tachwedd 2005). World Bank's Former Chief Will Be Hired by Citigroup. The New York Times. Adalwyd ar 14 Mai 2013.
  6. (Saesneg) Erlanger, Steven (29 Ebrill 2006). World Briefing. The New York Times. Adalwyd ar 14 Mai 2013.
  7. (Saesneg) Banker to the world: James Wolfensohn. The Economist (7 Hydref 2010). Adalwyd ar 14 Mai 2013.
  8. (Saesneg) Wolfensohn, James David. Llywodraeth Awstralia. Adalwyd ar 14 Mai 2013.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Sebastian Mallaby. The World's Banker: A Story of Failed States, Financial Crises, and the Wealth and Poverty of Nations (New Haven, Connecticut: Yales University Press, 2004).