Paul Wolfowitz
Oddi ar Wicipedia
Academydd, bancwr a swyddog cyhoeddus o Americanwr yw Paul Dundes Wolfowitz (ganwyd 22 Rhagfyr 1943). Ef oedd Llywydd Banc y Byd o 2005 hyd 2007, Dirprwy Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau o 2001 hyd 2005, a Llysgennad yr Unol Daleithiau i Indonesia o 1986 hyd 1989. Roedd yn un o'r neogeidwadwyr blaenllaw yn ystod arlywyddiaeth George W. Bush.