James Connolly

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
James Connolly

Roedd James Connolly (Gwyddeleg: Séamas Ó Conghaile; 5 Mehefin, 1868 - 12 Mai, 1916) yn arweinydd llafur Gwyddelig. Ganed ef yn ardal Cowgate, Caeredin, Yr Alban, i deulu tlawd oedd wedi mewnfudo o Iwerddon. Gadawodd yr ysgol yn 11 oed, ond er hynny addysgodd ei hun nes dod yn un o feddylwyr amlycaf yr adain chwith yn ei ddydd.

Yn 1882, yn 14 oed, ymunodd a'r Fyddin Brydeinig, a bu yn y fyddin am 7 mlynedd, yn gwasanaethu yn Iwerddon. Tra'r oedd yno cyfarfu a Lillie Reynolds a ddaeth yn wraig iddo yn ddiweddarach. Gadawodd y ffordd y gwelodd y fyddin yn trin pobl gyffredin Iwerddon Connolly gyda chasineb at y fyddin weddill ei oes.

Bu'n gweithio fel llafurwr yng Nghaeredin a daeth yn weithgar gydag undebau llafur a chyda Plaid Lafur Annibynnol Keir Hardie. Erbyn 1896 roedd yn Nulyn yn ysgrifennydd Cymdeithas Sosialaidd Dulyn; ffurfiodd Connolly y Blaid Weriniaethol Sosialaidd Wyddelig (Irish Socialist Republican Party neu ISRP). Bu yn yr Unol Daleithiau am gyfnod, lle bu'n weithgar gydag undebau llafur. Dychwelodd i Iwerddon, ac yn 1913 ffurfiodd yr Irish Citizen Army (ICA), byddin lafur arfog. Pwrpas y fyddin ar y cychwyn oedd amddiffyn gweithwyr a streicwyr, ond yn fuan daeth i anelu at greu gweriniaeth sosialaidd rydd yn Iwerddon.

Daeth Connolly i gytundeb ag arweinwyr Brawdoliaeth Weriniaethol Iwerddon oedd hefyd yn ystyried gwrthryfel arfog, a chyfarfu Connolly â Tom Clarke ac â Padraig Pearse. Cytunwyd i weithredu dros wythnos y Pasg, 1916.

Yn ystod Gwrthryfel y Pasg. a ddechreuodd ar 24 Ebrill, 1916, roedd Connolly yn un o'r prif arweinwyr. Clwyfwyd ef yn ddifrifol yn ei goes yn ystod yr ymladd. Wedi'r gwrthryfel dedfrydwyd ef i farwolaeth a saethwyd ef yng Ngharchar Kilmainham, yn eistedd mewn cadair am ei fod wedi'i glwyfo'n rhy ddrwg i sefyll. Gadawodd nifer o blant, a daeth un ohonynt, Nora Connolly-O'Brien yn adnabyddus fel awdur ac ymgyrchydd gwleidyddol.

Cerflun o James Connolly yn Nulyn

Mae cerflun o Connolly yn ninas Dulyn o flaen Liberty Hall, swyddfeydd yr undeb llafur SIPTU. Mae un o ddwy brif gorsaf reilffordd Dulyn wedi ei enwi ar ei ôl.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Levenson S. James Connolly A Biography. Martin Brian and O'Keeffe Ltd., Llundain, 1973. ISBN 0-85616-130-6.
  • Connolly, James. 1987. Collected Works (Two volumes). Dulyn: New Books.
  • Anderson, W.K. 1994. James Connolly and the Irish Left. Dulyn: Irish Academic Press. ISBN 0-7165-2522-4.
  • Fox, R.M. 1943. The History of the Irish Citizen Army. Dulyn: James Duffy & Co.
  • Fox, R.M. 1946. James Connolly: the forerunner. Tralee: The Kerryman.
  • Greaves, C. Desmond. 1972. The Life and Times of James Connolly. Llundain: Lawrence & Wishart. ISBN 0-85315-234-9.
  • Lynch, David. 2006. Radical Politics in Modern Ireland: A History of the Irish Socialist Republican Party (ISRP) 1896-1904. Dulyn: Irish Academic Press. ISBN 0-7165-3356-1.
  • Kostick, Conor & Collins, Lorcan. 2000 "The Easter Rising" Dulyn: O'Brien Press ISBN .0-86278-638-X
  • Nevin, Donal. 2005. James Connolly: A Full Life. Dulyn: Gill & MacMillan. ISBN 0-7171-3911-5.
  • Ó Cathasaigh, Aindrias. 1996. An Modh Conghaileach: Cuid sóisialachais Shéamais Uí Chonghaile. Dulyn: Coiscéim.

Gweler hefyd[golygu]