Interlingua
Oddi ar Wicipedia
| Interlingua | ||
|---|---|---|
| Ynganiad IPA | Nodyn:IPA-en; IA: Nodyn:IPA-art | |
| Crëwyd gan | Cymdeithas Iaith Ategol Ryngwladol | |
| Sefyllfa a defnydd | Cofrestru gwyddonol o eirfa ryngwladol; iaith ategol ryngwladol | |
| Cyfanswm siaradwyr | Ychydig o gannoedd[1] | |
| Categori (pwrpas) | Iaith ategol ryngwladol
|
|
| System ysgrifennu | Sgript Lladin | |
| Ieithoedd tarddol: Ffrangeg, Eidaleg, Portiwgaleg, Sbaeneg, Almaeneg, Saesneg, Rwsieg, a Lladin | ||
| Rheolir gan | Dim bwrdd rheoli | |
| Codau ieithoedd | ||
| ISO 639-1 | ia | |
| ISO 639-2 | ina | |
| ISO 639-3 | ina | |
| Wylfa Ieithoedd | – | |
| Nodyn: Efallai bod gan y dudalen hon symbolau ffonetig IPA yn Unicode. | ||
Iaith ryngwladol sy'n defnyddio geiriau mwyaf cyffredin Lladin, Eidaleg, Sbaeneg, Portiwgaleg, Ffrangeg a Saesneg yw Interlingua. Y canlyniad yw Lladin modern syml.
Y gwahaniaeth rhwng Interlingua ac Esperanto yw bod geiriau Esperanto wedi eu creu yn ôl rheolau'r iaith a dim ond y rhai sydd wedi dysgu'r iaith sy'n ei deall. Dydy geiriau Interlingua ddim wedi eu creu. Roedden nhw'n bodoli'n barod. Y canlyniad yw bod unrhyw un sy'n medru dwy iaith Ewropeaidd yn deall 80% neu 90% o Interlingua yn barod, heb ddysgu dim ohoni. Fe fydd yr Eidalwyr, y Sbaenwyr a'r Portiwgalwyr yn deall Interlingua heb ddim trafferth. Iddyn nhw fe fydd yn swnio fel tafodiaith o'u hiaith eu hunain.
Ymadroddion cyffredin [golygu]
- Hello! : Helô!
- Bon die! : Bore/p'nawn da!
- Como sta vos? : Sut ydych chi?
- Como sta tu? : Sut wyt ti?
- Multo ben! : Da iawn!
- Benvenite! : Croeso!
- Excusa me! / Perdon! : Esgusodwch fi!
- Per favor! : Os gwelwch chi'n dda!
- Gratias! : Diolch!
- Si : Ie/do/oes ayyb.
- No : Na
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Sabine Fiedler, 1999, "Phraseology in planned languages", Language Problems and Language Planning, vol. 23 no. 2
Argraffiad Interlingua Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd