Hwyaden Gribog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hwyaden Gribog
Ceiliog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Aix
Rhywogaeth: A. galericulata
Enw deuenwol
Aix galericulata
(Linnaeus, 1758)

Mae'r Hwyaden Gribog neu Hwyaden Fandarin (Aix galericulata) yn hwyaden weddol fach, 41-49 cm o hyd a 65-75 cm ar draws yr adenydd. Mae'r ceiliog yn darawiadol dros ben, gyda phig coch, cochaidd ar yr wyneb a phorffor ar ei fron. Nid yw'r iar mor darawiadol, gyda phlu brown neu lwyd.

O dde-ddwyrain Asia, yn enwedig China a Japan y mae'r rhywogaeth yma yn dod. Mae'n hoffi pyllau dŵr cymharol fach mewn fforestydd. Gan fod llawer o'r fforestydd hyn wedi eu dinistrio, mae wedi mynd yn aderyn prin. Credir fod tua mil o barau yr un yn nwyrain Rwsia a China, ond mae tipyn mwy yn Japan - tua 5,000 o barau.

Oherwydd fod y ceiliog mor hardd, mae'n hwyaden boblogaidd iawn mewn casgliadau o hwyaid dôf. O bryd i'w gilydd llwyddodd rhai i ddianc, ac yn ystod yr ugeinfed ganrif mae'r rhain wedi rhoi bodolaeth i boblogaeth o tua 1,000 o barau ym Mhrydain Fawr, sy'n gyfran eithaf sylweddol o boblogaeth y rhywogaeth yma trwy'r byd. Yng Nghymru mae poblogaeth fychan yn magu ar Afon Glaslyn ger Porthmadog er enghraifft.

Iâr

Maent yn dodwy eu wyau mewn tyllau mewn coed sy'n tyfu'n agos i'r lan. Maent yn bwyta planhigion yn bennaf.