Humphrey Owen Jones

Oddi ar Wicipedia
Humphrey Owen Jones
Ganwyd20 Chwefror 1878 Edit this on Wikidata
Goginan Edit this on Wikidata
Bu farw12 Awst 1912 Edit this on Wikidata
Mont Blanc Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdringwr mynyddoedd, cemegydd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaY Lliwedd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cemegydd disgleiriaf ei genhedlaeth, yn ôl llawer, oedd Humphrey Owen Jones (20 Chwefror 1878 - 15 Awst 1912). Yng Ngoginan, Ceredigion y cafodd ei eni cyn symud gyda'r teulu i Lynebwy. O Brifysgol Aberystwyth aeth ymlaen i Goleg Clare, Prifysgol Caergrawnt. Ei faes arloesol oedd y modd mae atomau'n gweithio mewn moleciwl. Roedd yn awdurdod ar stereocemeg nitrogen. Roedd hefyd yn fynyddwr o fri.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd Muriel (nee Edwards) o Fangor, Gwynedd a oedd hithau'n gemegydd. Ar ganol gwyliau mynydda yn yr Alpau, disgynodd y ddau i'w marwolaeth.

Mynyddwr[golygu | golygu cod]

Tri chopa'r Aiguille Blanche de Peuterey; mae Pointe Jones ar y dde.

Roedd yn ddringwr creigiau a mynyddwr brwd. Yng Nghymru arloesodd ar sawl clogwyn yn Eryri, yn enwedig ar Y Lliwedd. Roedd ei chwaer, Bronwen Ceridwen Jones (Mawson yn ddiweddarach), yn ddringwraig hefyd. Roedd yn aelod o bwyllgor y Climbers' Club.

Dringai yn yr Alpau hefyd. Gyda Karl Blodig, Geoffrey Winthrop Young a'r tywysydd Joseph Knubel ef oedd y cyntaf i ddringo crib Brouillard i gopa Mont Blanc ar 9 Awst 1911. Fforiodd ardal Mont Blanc yn drwyadl a bu'n gyfrifol am sefydlu sawl llwybr dringo newydd yno. Yn 1909 cafodd ei ethol yn aelod o'r Alpine Club dethol a chyfranodd sawl erthygl i gylchgronau'r clwb hwnnw a'r Climbers' Club hefyd.

Lladdwyd Jones a'i wraig wrth ddringo copa'r Aiguille Noire de Peuterey yn ardal Mont Blanc ar 15 Awst 1912. Syrthiodd y tywysydd ar Jones a syrthiodd y tri ohonynt 1,000 troedfedd i Rewlif Fresnay. Cawsant eu claddu yn Courmayeur. Enwyd copa gogleddol yr Aiguille Blanche de Peuterey yn La Pointe Jones er cof amdano.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]