Hughes a'i Fab

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Logo Hughes a'i Fab

Sefydlwyd gwasg Hughes a'i Fab yn Wrecsam gan Richard Hughes yn 1824. Prynwyd y wasg gan S4C yn 1982 gyda'r bwriad o gyhoeddi llyfrau Cymraeg yn seiliedig ar raglenni'r sianel newydd. Mae'r wasg eisioes wedi ei leoli gyda S4C yn Llanisien, Caerdydd.

O ddiwedd y 1920au hyd 1955, Hughes a'i Fab oedd cyhoedwyr Y Llenor, prif fforwm llenyddol y cyfnod hwnnw.

Yn y 1930au, cafodd cylchgrawn misol poblogaidd Y Ford Gron ei gyhoeddi gan Hughes a'i Fab.

Cedwir archifau'r cwmni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dolenni Allanol [golygu]

Flag of Wales 2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato