Hedfan
Pan fo gwrthrych megis aderyn neu awyren yn teithio drwy'r aer, uwchlaw'r ddaear fe ddywedir ei fod yn hedfan. Digwydd hyn ar wahanol adegau megis pan fo'r gwrthrych yn ysgafnach na'r aer o'i gwmpas (gweler balwn aer) neu pan fo rhywbeth megis roced yn gwthio yn ôl. Pan fo gwrthrych yn symud drwy'r aer heb y gwthio hwn, dywedir ei fod yn 'gleidio'.
Yr ystlym yw'r unig anifail (ar wahân i ddyn!) a all hedfan, er bod nifer o anifeiliaid yn medru gleidio.
Cynnwys |
Cymry yn yr awyr [golygu]
Ymhlith y Cymry blaenllaw yn y maes hwn y mae: Charles Stewart Rolls a sefydlodd y cwmni Rolls Royce ac a oedd y cyntaf o wledydd Prydain i farw mewn damwain awyrennau. Roedd Ernest Thompson Willows yn flaenllaw gyda balwnau aer a llongau awyr hefyd.
Y cwmni hedfan cenedlaethol cyntaf yng Nghymru oedd Cambrian Airways a ffurfiwyd yng Nghaerdydd yn 1935 o dan yr enw Cambrian Air Services, gan y masnachwr S. Kenneth Davies. sefydlwyd Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn yr 1940au.
Hanes hedfan yng Nghymru [golygu]
Cyn y Rhyfel Byd Cyntaf [golygu]
- Y brodyr James o Sir Benfro, Horace Watkins a W. E. Williams (awyrenwr) yn adeiladu awyrenau ar gychwyn yr 20ed ganrif.
- Denys Corbett Wilson: hedfanodd o Abergwaun i Swydd Wexford yn Iwerddon ar 22 Ebrill 1912. Yr hediad cyntaf rhwng y ddwy wlad.
- Vivian Hewitt o'r Rhyl: y cyntaf i groesi'r o Gaergybi i Ddulyn ar 26 Ebrill 1912.
- Gustav Hamel a Hery Astley yn gwneud campau mewn ffeiriau awyrenau ledled Cymru.
- Ernest Thompson Willows (Tad llongau awyr Prydain) yn hedfan dros Fôr Hafren.
- Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf: agorwyd gorsafoedd llongau awyr ym Môn.
- Sefydlu maes awyr North Shotwick a South Shotwick yn Queensferry (Glannau Dyfrdwy).
Rhwng y ddau ryfel byd [golygu]
- Rhwng y ddau ryfel byd datblygu'r diwydiant awyrennau masnachol.
- Awyrennau Avro yn Abertawe yn cynnig teithiau pleser.
- Ychwaneg o sioeau awyr gan ddynion fel Alan Cobham ac Idwal Jones o Dal-y-sarn.
- 1930au: sefydlu gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd a Weston super Mare, Bryste a Birmingham.
- 1935: sefydlu Cambrian Airways, cwmni awyrennau cenedlaethol Cymru. Daeth i ben yn 1976.
- 1930: yr Awyrlu'n agor canolfan awyrennau môr yn Noc Penfro a 4 maes awyr mewn mannau eraill.
- 1938 adeiladwyd Maes Awyr Penarlâg ger Brychdyn, Sir y Fflint i gynhyrchu awyrennau bomio Vickers Wellington.
Yr Ail Ryfel Byd [golygu]
- Erbyn 1939 roedd 7 maes awyr yng Nghymru. Oherwydd yr Ail Ryfel Byd ychwanegwyd 27 maes awyr arall.
- 5,540 o awyrennau Wellington yn cael eu hadeiladu dros gyfnod y rhyfel ym Mrychdyn.
- Awyrlu'r Fali ym Môn yn datblygu i fod yn orsaf draws-Iwerydd.
- Doc Penfro'n datblygu i fod yn ganolfan o awyrennau gwrth-longau tanfor.
Wedi'r rhyfel [golygu]
- Ceuwyd hanner y maesydd awyr ar ddiwedd y rhyfel.
- Breudraeth a'r Fali'n hyfforddi peilotiaid.
- Yn 1948 wedi seibiant o 3 blynedd ailgychwynwyd adeiladu awyrennau.
- Yn 1971 (a'r ffatri'n eiddo i Hawker Sydney) cychwynwyd cynhyrchu adennydd yr A300 (y bws awyr).