Balŵn ysgafnach nag aer

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Zeppellin modern o'r Almaen
Balŵn ar ffurf hysbyseb diffoddwr tân gan Gwmni Chubb.

Dyfais sy'n hedfan, wedi'i wneud gan ddyn ydy balŵn ysgafnach nag aer, llongawyr, balŵn aer cynnes, blimp neu balŵn aer poeth.

Ar 21 Tachwedd 1783, ym Mharis, Ffrainc yr hedfanodd y balŵn cyntaf gyda dyn yn ei yrru, sef Jean-François Pilâtre de Rozier a François Laurent d'Arlandes. Roedd y balŵn wedi ei greu gan y brodyr Montgolfier. Lansiodd yr Almaen sawl teulu o awyrlongau gan gynnwys y Zeppelins; yn 1937 ffrwydrodd yr LZ 129 Hindenburg gan ladd 36 o bobl mewn llong awyr Almaenig ydoedd. Roedd yn 247 metr; hyd tair Boeing 747 a 40 metr o ran diamedr.

Ar wahân i aer cynnes, dros y blynyddoedd defnyddiwyd y nwy Hydrogen, ond ers y 1960au, heliwm sy'n cael ei ddefnyddio gan nad yw'n llosgi, ac felly mae'n ddiogelach i'w ddefnyddio.

Ers yr 1990au gellir gwneud balwnau o bob siâp dan haul, gan gynnwys nwyddau megis can Cola neu gi poeth.

Yr enw a roddir i falŵn sydd â gyriant ychwanegol i wynt ydy llong awyr neu awyrlong.

Gweler hefyd[golygu]