Roced
Oddi ar Wicipedia
Roced y Saturn V cyn iddi lawnsio am y tro cyntaf ym 1967
Gall roced fod yn daflegryn, yn llong ofod, yn awyren neu'n unrhyw gerbyd sydd yn derbyn grym adweithiol o injan roced. Mae mudiant roced yn cael ei yrru gan y grym sy'n gwthio am yn ôl yn gyflym iawn. Roedd darganfod powdwr gwn yn Tseina tua'r 13eg ganrif yn gam pwysig yn natblygiad y roced.