Hofrennydd
Peiriant i deithio drwy'r awyr ydy hofrennydd, a gaiff ei yrru gyda chymorth llafnau metel sy'n troi uwch ei ben; ceir llafnau i reoli'r cyfeiriad hefyd - rhai lla - ar gynffon yr hofrennydd. Yn wahanol i'r awyren gyffredin, gall godi a glanio'n fertig sy'n ei wneud yn arbennig o ddefnyddiol i'w ddefnyddio mewn llefydd anial, heb lwybr glanio.
Datblygwyd y dechnoleg i'w lunio yn ystod hanner cynta'r 20ed ganrif. Yr hofrennydd cyntaf i'w ddefnyddio i bwrpas oedd y Focke-Wulf Fw 61 a hynny yn 1936.
Defnyddir yr hofrennydd i wahanol bwrpas gan gynnwys: gan yr heddlu ac fel ambiwlans awyr. Cânt eu defnyddio hefyd i arbed bywydau a gan ffermwyr i chwistrellu cemegolion ar gnydau neu i gario teithwyr. Maent yn arbennig o ddefnyddiol fel peiriannau lladd, fel y gwelwyd yn Rhyfel Fietnam.