Hanes y Gystadleuaeth Ganu Eurovision

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cyflwynwyd y logo newydd ar gyfer cystadleuaeth 2004 (yn Istanbul er mwyn creu hunaniaeth gweledol cyson i'r gystadlaeuaeth. Ymddengys baner y wlad sy'n cynnal y gystadleuaeth yn y galon.)

Cystadleuaeth flynyddol yw'r Eurovision Song Contest (yn Ffrangeg: Concours Eurovision de la Chanson) sy'n cael ei chynnal ymysg gwledydd gweithredol o'r Undeb Ddarlledu Ewropeaidd (UDdE).

Mae pob gwlad sy'n aelod yn cyflwyno cân sydd i'w pherfformio'n fyw ar y teledu ac yna mae pob gwlad yn gallu bwrw'u pleidlais ar ganeuon gwledydd eraill er mwyn penderfynu ar y gân mwyaf poblogaidd yn y gystadleuaeth. Mae pob gwlad yn cystadlu trwy un o'u gorsafoedd deledu cenedlaethol sy'n aelod o'r UDdE, a'u tasg hwy yw i ddewis canwr neu gantores i gynrychioli eu gwlad yn y gystadleuaeth ryngwladol hon.

Mae'r gystadleuaeth wedi cael ei darlledu bob blwyddyn ers 1956 ac mae'n un o'r rhaglenni teledu sydd wedi cael ei darlledu am fwyaf o amser yn y byd. Mae hefyd yn un o'r rhaglenni sy'n denu fwyaf o wylwyr, ac eithrio digwyddiadau ym myd chwaraeon, gyda chynulleidfa o rhwng 100 miliwn a 600 miliwn o bobl yn rhyngwladol, yn ol ffigyrau y blynyddoedd diweddaraf. Mae Eurovision hefyd wedi cael ei ddarlledu tu allan i Ewrop mewn llefydd fel Awstralia, Canada, Mecsico, yr Aifft, Hong Kong, India, Iorddonen, Seland Newydd, De Affrica, De Corea, Fietnam a'r Unol Daleithiau, er waetha'r ffaith nad yw'r gwledydd hyn yn cystadlu. Ers 2000, mae'r gystadleuaeth hefyd wedi cael ei darlledu ar y wê, gyda dros 74,000 o bobl mewn dros 140 o wledydd yn gwylio'r fersiwn ar y wê yn 2006.

Yn hanesyddol, caiff y gystadleuaeth ei hystyried fel ffordd o arddangos cerddoriaeth bop fformiwleaidd. Fodd bynnag, mae amrywiaeth eang o ganeuon, gan gynnwys genres cerddorol fel Arabaidd, Armeniaidd, Balcaidd, Llydaweg, Celtaidd, Dawns, Gwerin, Groegaidd, Lladin, Norwyaidd, Pop-rap, Iddewig, Metal Trwm, Roc Caled a Thwrceg wedi cael eu gweld ar lwyfan y gystadleuaeth.

Gwreiddiau'r Gystadleuaeth[golygu]

Yn y 1950au, wrth i Ewrop geisio ail-adeiladu'i hun wedi'r rhyfel, daeth yr Undeb Ddarlledu Ewropeaidd (UDdE) i fyny a'r syniad o gynnal cystadleuaeth canu rhyngwladol lle byddai gwledydd yn cystadlu mewn un rhaglen deledu a oedd i'w darlledu ar yr un pryd i holl wledydd yr Undeb. Crëwyd y syniad gan Marcel Bezencon, Ffrancwr a weithiai yn yr UDdE, yn ystod cyfarfod ym Monaco ym 1955. Roedd y gystadleuaeth yn seiliedig ar Wyl Gerddoriaeth Sanremo a fodolai eisoes yn yr Eidal, a chafodd yr Eurovision ei hystyried fel arbrawf technolegol ym myd teledu byw: y dyddiau hynny roedd yn brosiect uchelgeisiol iawn i geisio uno nifer o wledydd ynghyd mewn rhwydwaith ryngwladol eang. Ni fodolai teledu lloeren, a gweithiai'r hyn a alwyd yn y Rhwydwaith Eurovision" ar rwydwaith daearol meicrodon. Defnyddiwyd yr enw "Eurovision" am y tro cyntaf yng nghyd-destun rhwydwaith yr UDdE gan y newyddiadurwr Prydeinig George Campey yn y London Evening Standard ym 1951.

Fformat y Gystadleuaeth[golygu]

Mae fformat y Gystadleuaeth wedi newid dros y blynyddoedd, er bod y cysyniad sylfaenol wedi aros yr un peth sef: bod gwledydd sy’n cystadlu’n cyflwyno caneuon sy’n cael eu perfformio’n fyw ar raglen deledu a ddarlledir ar yr un pryd ar hyd y Rhwydwaith Eurovision gan yr UddE i bob gwlad. Cynrychiolir bob gwlad sy’n cystadlu gan un cyflwynydd teledu o’r wlad honno. Caiff y rhaglen ei chynnal gan un o’r gwledydd sy’n cymryd rhan, a chaiff y darllediad ei ddanfon o awditoriwm yn y wlad sy’n cynnal y gystadleuaeth y flwyddyn honno. Yn ystod y rhaglen, ar ôl i’r holl ganeuon cael eu perfformio, mae’r gwledydd yn bwrw’u pleidlais ar ganeuon y gwledydd eraill; ni chaniateir i wledydd bleidleisio am ei gwlad eu hunain. Ar ddiwedd y rhaglen, mae’r gân sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau’n ennill. Yn syml, mae’r enillydd yn derbyn y clod a’r mawl o ennill – er mae’n gyffredin i’r cerddorion a ysgrifennodd y gân i dderbyn tlws, a gwahoddir y wlad fuddugol i gynnal y gystadleuaeth y flwyddyn ganlynol.

Gan amlaf, egyr y rhaglen gan un neu fwy nag un cyflwynydd sy’n croesawu’r gwylwyr i’r sioe. Mae’r mwyafrif o wledydd yn cymryd mantais o’r cyfle i ddarlledu i gynulleidfa mor eang a rhyngwladol ac mae’n gyffredin i weld cyflwyniadau sy’n cynnwys clipiau fideo sy’n dangos y wlad sy’n cynnal y gystadleuaeth, fel petaent yn ceisiau hyrwyddo a hysbysebu eu gwlad. Rhwng y caneuon a chyhoeddu’r canlyniadau, ceir perfformiad yn yr egwyl sy’n medru bod yn unrhyw fath o berfformiad. Mae’r perfformiadau yn yr egwyl yn y gorffennol yn cynnwys Y Wombles (1974) a’r perfformiad cyntaf o Riverdance (1994). Yn draddodiadol, cynhelir y Gystadleuaeth Ganu Eurovision ar nos Sadwrn am 20.00 BST (neu 21.00 CEST). Gan amlaf, cynhelir y gystadleuaeth am ddydd Sadwrn ym mis Mai, er i’r dyddiad amrywio ar hyd y degawdau: Mawrth / Ebrill yn ystod y 50au & 60au, Ebrill / Mai yn ystod y 70au & 80au ac yn bennaf yn ystod mis Mawrth / Ebrill yn ystod y 90au & 00au. Yn 2004, o ganlyniad i nifer cynyddol o wledydd a oedd yn dymuno cystadlu, cyflwynwyd rownd o ragbrofion – sy’n cael ei alw’n y Rownd Cyn-Derfynol – sy’n cael ei chynnal 2-3 niwrnod cyn y Rownd Derfynol. Yn 2008, cafodd hyn ei ddatblygu ymhellach i ddwy rownd cyn-derfynol ac mae rhain yn cael eu cynnal ar y dydd Mawrth a’r dydd Iau cyn y Rownd Derfynol ar y nos Sadwrn ar Fai y 24ain.

Gwledydd sy'n Cystadlu[golygu]

Mae'r gwledydd sy'n medru cystadlu yn cynnwys Aelodau Bywiog (yn hytrach nag Aelodau Cysylltiedig) o'r Undeb Ddarlledu Ewropeaidd. Y gwledydd bywiog yw'r rhai hynny sydd o fewn yr Ardal Ddarlledu Ewropeaidd, neu y rhai hynny sy'n aelodau o Gyngor Ewrop.

Diffinir yr Ardal Ddarlledu Ewropeaidd gan yr Undeb Telegyfathrebu Rhyngwladol:

Mae'r aelodau bywiog yn cynnwys sefydliadau darlledu sy'n darlledu i bron yr holl boblogaeth yn y wlad lle maent wedi'u lleoli.

Os yw aelod bywiog o'r Undeb Ddarlledu Ewropeaidd yn dymuno cymryd rhan yn y gystadleuaeth, rhaid iddynt ufuddhau i'r amodau a osodir yn rheolau'r gystadleuaeth (darperir drafft newydd ohono'n flynyddol).

Gweler hefyd[golygu]