Gylfin Groes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gylfin Groes
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Fringillidae
Genws: Loxia
Rhywogaeth: L. curvirostra
Enw deuenwol
Loxia curvirostra
Linnaeus, 1758
Wyau

Mae'r Gylfin Groes (Loxia curvirostra) yn perthyn i'r teulu Fringillidae, y llinosiaid. Enw arall arno yw'r Croesbig. Mae'n nythu trwy rannau helaeth o Ewrop, gogledd Asia a gogledd America, fel rheol mewn coedwigoedd conifferaidd.

Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond ambell dro mae nifer fawr ohonynt yn symud tua'r de a'r gorllewin os oes prinder bwyd yn eu cynefin arferol. Tu allan i'r tymor nythu mae'n aml yn ymgasglu'n heidiau mawr, weithiau gyda rhywogaethau gylfingroes eraill.

Caiff ei enw o'r ffaith fod dau hanner y pig yn groes, fel nad ydynt yn cyfarfod ei gilydd yn y tu blaen. Addasiad i fwydo ar gonau coed conifferaidd yw hyn. Coch yw lliw'r ceiliog fel rheol, a'r iâr a'r adar ieuanc yn wyrdd, ond mae rhywfaint o amrywiaeth.

Yng Nghymru mae'n aderyn gweddol hawdd ei adnabod, oherwydd dyma'r unig rywogaeth gylfingroes sy'n nythu, ac anaml iawn y gwelir unrhyw un o'r rhywogaethau eraill. Lle ceir nifer o rywogaethau gall fod yn anodd iawn gwahaniaethu rhyngddynt, er enghraifft yn Yr Alban lle ceir Croesbig yr Alban a'r Croesbig Mawr. Gall maint y pig fod yn gymorth i'w gwahaniaethu, ac mae'r alwad ychydig yn wahanol.