Nico

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Nico
De Stieglitz lat Carduelis carduelis.jpg
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Fringillidae
Genws: Carduelis
Rhywogaeth: C. carduelis
Enw deuenwol
Carduelis carduelis
(Linnaeus, 1758)

Mae'r Nico (Carduelis carduelis) yn perthyn i'r teulu Fringillidae. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop ac Asia.

Nid yw'r Nico yn aderyn mudol yn y rhannau lle mae'r gaeafau'n weddol gynnes, ond mae adar o'r gogledd yn symud tua'r de a'r gorllewin yn y gaeaf. Mae'n aderyn gweddol fychan, 12-13.5 cm o hyd ac yn pwyso rhwng 16 a 22 gram. Nid oes gwahaniaeth rhwng y ddau ryw; mae gan y ddau wyneb coch, du a gwyn ar y gweddill o'r pen, brown ar y cefn a gwyn ar y bol, gydag adennydd du a melyn.

Hadau yw eu brif fwyd, yn enwedig hadau bychain, er enghraifft hadau ysgall, ond maent hefyd yn dal pryfed i fwydo'r cywion. Maent yn nythu mewn coed gweddol uchel ac yn dodwy o 4 i 6 ŵy. Yn y gaeaf maent yn aml yn ymgasglu'n heidiau, weithiau gyda llinosiaid eraill. Mae'r Nico yn aderyn cyffredin ac adnabyddus yng Nghymru.

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill