Gwyn y coed

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Leptidea sinapis
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Pieridae
Genws: Leptidea
Rhywogaeth: L. sinapis
Enw deuenwol
Leptidea sinapis
(Linnaeus, 1758)

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyn y coed, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwynion y coed; yr enw Saesneg yw Wood White, a'r enw gwyddonol yw Leptidea sinapis.[1][2] Fe'i canfyddir ledled Ewrop a rhannau o Asia, Kazakhstan a de Siberia.

Hoff gynefin y Leptidea sinapis, fel arfer.

Caiff yr isrywogaethau canlynol eu cydnabod: spp. sinapis (Linnaeus, 1758) Europeaidd (Lleoliad: Sweden, W. Siberia, de Altai; ssp. pseudodiniensis (Pfeiffer, 1927) y Cawcasws, Kopet-Dagh; ssp. melanoinspersa Verity, 1911 de a gorllewin Tian-Shan, Dzhungarsky Alatau a Mynyddoedd Alay.

Ei gynefin yw caeau gwair ac ymylon coedwigoedd a hynny hyd at 2,500 m yn uwch na lefel y môr. Dros y 150 mlynedd diwethaf mae ei niferoedd wedi gostwng yn enbyd. Ceir enghreifftiau prin ohonyn nhw mewn rhai siroedd yn ne Lloegr, fodd bynnag, gan gynnwys: Swydd Henffordd, Caerwrangon, Swydd Northampton, Swydd Buckingham, Dyfnaint, Swydd Surrey a Gwlad yr Haf. Dyma löyn byw lliw gwyn prinaf gwledydd Prydain, ond mae'r rhywogaeth debyg gwyn coed Real yn bur gyffredin yn Iwerddon.

Ceir un cenhedlaeth ohono: rhwng diwedd Mai a Mehefin; ond ar adegau, pan fo'r hafau'n hir a chynnes, ceir ail genhedlaeth a hynny yn Awst.

Wyau a bwyd[golygu]

Mae'r fenyw yn dodwy ei hwyau ar ddail teulu'r pys a hynny ar ddiwedd Mai neu ddechrau Mehefin. Mae'n eu dodwy yn fynych ar: Lathyrus pratensis, Lathyrus linifolius, Vicia cracca a Lotus corniculatus. Mae'r siani flewog wedi'i gorchuddio mewn cuddliw effeithiol o wyrdd. Try'n chwiler ar ddiwedd Gorffennaf ac fel hyn mae'n cysgu'r gaeaf.

Ŵy

Cyffredinol[golygu]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae gwyn y coed yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.