Gwyn Erfyl

Oddi ar Wicipedia
Gwyn Erfyl
GanwydGwyn Erfyl Jones Edit this on Wikidata
9 Mehefin 1924 Edit this on Wikidata
Llanerfyl Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mai 2007 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, darlledwr, cynhyrchydd teledu, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata

Darlledwr a phregethwr oedd Gwyn Erfyl (9 Mehefin 19244 Mai 2007).[1] Cynhyrchodd gyfoeth o raglenni gan greu archif o fywyd a phersonoliaethau Cymru yn ystod rhan olaf y ganrif ddiwethaf.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Gwyn Erfyl Jones yn fab i Miriam a William Tomley Jones. Fe'i magwyd ar Fferm Aberdeunant, ger Llanerfyl, yn Sir Drefaldwyn. Brawd iddo oedd y cerddor Gwilym Gwalchmai Jones. Mynychodd ysgol y pentref cyn mynd i Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion. Ei gredoau crefyddol dwfn a rwystrodd, fel dyn ifanc, rhag iddo ymuno â'r Fyddin ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd. Treuliodd dair blynedd adeg y rhyfel ar staff gwersylloedd carcharorion, yn bennaf yng Ngwersyll y Fenni.

Aeth ymlaen i'r brifysgol yn Aberystwyth lle dewisodd astudio athroniaeth o dan yr athronydd a'r cenedlaetholwr J. R. Jones. Gorfododd y pwnc a ddewisodd iddo ailasesu ei nod o ddod yn bregethwr, gan chwalu ei ffydd. Ar ôl graddio derbyniodd swydd darlithydd athroniaeth yng Ngholeg Harlech.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ar ôl blwyddyn o waith ymchwil i'r Bwrdd Glo yn Llundain cafodd ei ordeinio ym 1954. Bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr yn Nhrawsfynydd, Glanaman a Chaerdydd. Cychwynnodd yn y byd darlledu gan weithio yn rhan-amser ar gyfres Y Dydd cyn ymuno â'r staff llawn amser yn ddiweddarach. Gweithiodd hefyd ar raglen Dan Sylw - mwy na 40 rhifyn awr o hyd bob blwyddyn. Bu'n cyflwyno a chynhyrchu cyn dod yn is-bennaeth rhaglenni TWW ac HTV Cymru.

Enillodd enw da yn gyflym fel cyflwynydd treiddgar a diwylliedig ac fel cynhyrchydd y daeth ei raglenni yn gronicl heb ei ail o fywyd yng Nghymru a thu hwnt. Cafodd ei benodi'n Bennaeth Rhaglenni Dogfen a Chrefydd HTV Cymru'n 1980 ac ymddeol o'r swydd yn 1985.

Ef oedd golygydd Barn o 1975 tan 1979.

Derbyniodd radd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1992.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod â Lisa ac roedd ganddynt pedair o ferched, yn cynnwys yr awdur a chomisiynydd teledu Angharad Jones a fu farw yn 2010.[3] Merch arall yw Eleri Løvgreen, cyfieithydd a chynghorydd tref yng Nghaernarfon, sydd yn wraig i'r bardd, yr adlonwr a'r cyfieithydd Geraint Løvgreen.[4]

Wedi ymddeol, bu'n weinidog lleyg. Bu farw yn 82 oed yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ar ôl byw am sawl blwyddyn yng Nghaernarfon.[5]

Detholiad cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Cerddi Gwyn Erfyl (1970)
  • Dan Sylw (1971)
  • Credaf (1985)
  • Trwy Ddirgel Ffyrdd (1997)
  • Cyfrol Deyrnged Jennie Eirian (Gee, 1985).
  • Cerddi y Tad a'r Mab (-yng-Nghyfraith), gyda Geraint Løvgreen (2003)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) BFI - Gwyn Erfyl. Adalwyd ar 26 Medi 2020.
  2. Broadcaster Gwyn Erfyl dies aged 82 (en) , Daily Post, 7 Mai 2007. Cyrchwyd ar 26 Medi 2020.
  3. Marw Angharad Jones , Golwg360, 9 Ionawr 2010. Cyrchwyd ar 26 Medi 2020.
  4. Gwybodaeth leol
  5. Gwyn Erfyl wedi marw , BBC Cymru, 4 Mai 2007. Cyrchwyd ar 26 Medi 2020.