Gwrthocsidant

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y gwrthocsidant metaboleit glutathion. Y sphêr melyn yw'r atom swlffer redocs, sy'n gyfrifol am y gwaith o wrthocsideiddio. Y coch, glas, gwyn a llwyd tywyll yw atomau: ocsigen, nitrogen, hydrogen a carbon.

Moleciwl gyda'r gallu i arafu neu atal ocsideiddio moleciwlau eraill ydy gwrthocsidant. Adwaith cemegol yw ocsideiddio, sy'n trosglwyddo electronau o'r sylwedd i'r ocsidydd (neu 'ocsidant'). Mae'r adwaith hwn o ocsideiddio cynhyrchu radicalau rhydd ('free radicals' yn Saesneg) sy'n medru difrodi celloedd drwy adweithiau. Gall gwrthocsidant dorri ar draws yr adweithiau hyn, gan eu hatal ocsideiddio ei hun.

Yn baradocsaidd iawn, er bod adweithiau o ocsideiddio yn hanfodol i fywyd, mae nhw hefyd yn niweidiol; dyma pam fod gan blanhigion ac anifeiliaid systemau cymhleth o ocsidyddion amrywiol megis glutathion, fitamin C a fitamin E yn ogystal ag ensymau megis catales a sawl perocsides. Gall lefel isel o wrthocsid achosi stres ocsideiddiol, a all ddifrodi neu ladd celloedd.

Mewn bwydydd [golygu]

Fe wyddom yn sicr fod a wnelo stres ocsideiddio (yn y corff dynol) rywbeth â chlefydau; ond nid yw gwyddoniaeth hyd yma'n deall yn iawn ai'r stres hwn sy'n achosi clefydau megis stroc neu ai canlyniad i'r clefyd ydyw. Mae llawer o waith yn cael ei wneud led-led y byd yn y maes hwn ar hyn o bryd.

Ychwanegir llawer o wrthocsidants i fwydydd gwahanol gyda'r gobaith ei fod yn ein cadw'n iach ac yn atal clefydau megis cancr a phroblemau'n ymwneud â'r galon. Mae canlyniadau'r treialon gwyddonol yn amrywio: rhai'n dweud fod yr ychwanegiadau'n help a'r lleill yn dweud nad oes wahaniaeth, neu hyd yn oed yn niweidiol.[1]

Mae'n bosib fod defnydd arall i wrthocsidants ar wahân i'r defnydd meddygol hwn, sef er mwyn cadw bwyd yn ffresh, h.y. i briserfio bwyd a chosnetics ac i hirhau oes defnyddiau megis rwber a phetrol.

Cyfansoddion Gwrthocsidant Bwydydd sy'n cynnwys lefelau uchel o wrthocsidyddion[2][3]
Fitamin C (asid ascorbig) Ffrwyth a llysiau
Fitamin E (tocopherols, tocotrienols) Olew llysiau
Gwrthocsidants Polyphenolig (resveratrol, flavonoidau) Te, coffi, soy, ffrwythau, olew'r olewyddan, siocled, sinamon, oregano a gwin coch[4].
Carotenoidau (lycopene, carotenes) Ffrwythau a llysiau

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Awdur:Bjelakovic G, yn ei erthygl 'Mortality in randomized trials of antioxidant supplements for primary and secondary prevention: systematic review and meta-analysis.' a gyhoeddwyd gan JAMA, cyfrol 297, rhif 8, tudalen 842–57; blwyddyn: 2007
  2. Gweler: 'Antioxidants and Cancer Prevention: Fact Sheet' a gyhoeddwyd gan 'National Cancer Institute'
  3. Gweler gwaith Ortega RM; 'Importance of functional foods in the Mediterranean diet' a gyhoeddwyd yn Health Nutr, cyfrol 9, rhif 8A, tudalen 1136–40 yn 2006
  4. [[1]] sef 'Which wines have the most health benefits' gan Félicien Breton, 2008