Gwledig (teitl)

Oddi ar Wicipedia

Teitl Cymraeg neu Frythoneg a roddid i rai arweinwyr yn y 4edd a'r 5g oedd Gwledig. Yr enghreifftiau mwyaf adnabyddus yw Macsen Wledig (Magnus Maximus yn Lladin, tua 335 - 28 Gorffennaf, 388), Emrys Wledig (Ambrosius Aurelianus, tua chanol y 5g) a Cunedda Wledig (teyrnasai efallai yn y 440au neu'r 450au).

Gwraidd y gair gwledig yw gwlad (gwlad + -ig) a'r ystyr yw "arglwydd, teyrn, llywodraethwr", h.y. "un sy'n rheoli gwlad". Cymharer y term Hen Lydaweg guletic ested sy'n golygu "eisteddle tywysog".[1]

Gan amlaf mae'r enghreifftiau Cymraeg Canol ynghlwm wrth enw personol, fel teitl, ond ceir enghreifftiau fel enw cyffredin yng ngwaith Beirdd y Tywysogion. e.e. gan Meilyr Brydydd yn ei farwnad i'r brenin Gruffudd ap Cynan (1137):

Yfais gan dëyrn o gyrn eurawg
Arfodd faedd feiddiad angad weiniawg;
Yn llys Aberffraw, er ffaw ffodiawg,
Bûm o du gwledig yn lleithigawg.[2]

Ceir enghreifftiau o'r gair yn Llyfr Taliesin hefyd. Yn y 14g, mae Iorwerth Beli yn cyfarch Esgob Bangor fel "Pendefig gwledig gwlad y Brython".[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol 2, tud.1682.
  2. J. E. Caerwyn Williams (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994). Cerdd 3: 'Marwnad Gruffudd ap Cynan', llau. 73-77.
Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.