Gwarchodfa Natur Aberogwen

Oddi ar Wicipedia
Gwarchodfa Natur Aberogwen
Mathgwarchodfa natur Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.227468°N 4.078521°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Gwarchodfa Natur Aberogwen (Saesneg: The Spinnies) yn ardal pedwar hectar o forlyn arfordirol yn ymyl Castell Penrhyn, efo dwy guddfan, yn rhoi golygfeydd o'r morlyn a Thraeth Lafan.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd y forlyn ym 1922 pan gyweiriwyd Afon Ogwen. Rhan o stad Penrhyn ydy'r warchodfa, ond caiff ei chynnal gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ers 1983

Adar[golygu | golygu cod]

Ymysg yr adar a welir yno mae: gwyach leiaf, gwyach fawr gopog, crëyr glas, crëyr bach, glas y dorlan, alarch, coeswerdd, hwyaden lygad aur, hwyaden ddanheddog fronrudd, pi fach, dryw benfflamgoch, coch y berllan, cap du, helygddryw, gïach, gŵydd, rhegen y dŵr, pioden y môr, pibydd y mawn, cornchwiglen, rhostog coch, gylfinir, titw tomos las a llinos werdd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Gwefan wildlifeextra Gwefan first-nature.com

Dolen allanol[golygu | golygu cod]


Oriel[golygu | golygu cod]