Grand Designs
| Grand Designs | |
|---|---|
| Genre | Eiddo |
| Crëwyd gan | Talkback Thames FremantleMedia |
| Serennu | Kevin McCloud |
| Cyfansoddwr y thema | David Lowe |
| Gwlad/gwladwriaeth | Yr Unol Daleithiau |
| Iaith/ieithoedd | Saesneg |
| Cynhyrchiad | |
| Amser rhedeg | 1 awr (gyda hysbysebion) |
| Darllediad | |
| Sianel wreiddiol | Channel 4 |
| Fformat llun | 16:9 |
| Rhediad cyntaf yn | 29 Ebrill 1999 |
| Cysylltiadau allanol | |
| Gwefan swyddogol | |
| Proffil IMDb | |
| Proffil TV.com | |
Cyfres deledu'r Deyrnas Unedig gan Channel 4 ydy Grand Designs, sy'n dilyn prosiectau pensaerniaeth ac adeiladu anarferol, cyflwynir y gyfres gan Kevin McCloud a cynhyrchir gan Talkback Thames. Darlledir y gyfres yn Awstralia, Seland Newydd, yr Iseldiroedd a'r Almaen.
Arddangosfa [golygu]
Mae arddangosfeydd cysylltiedig Grand Designs: Live yn cael eu cynnal yn flynyddol yn Llundain a Birmingham. Maent yn arddangos dylunio a thechnoleg cyfoes ar gyfer y cartref a'r ardd, gyda chanoedd o gyfanwerthwyr a gweithgynhyrchwyr â stondinau i hybu eu cynnyrch a'u gwasanaethau. Bu dros 100,000 o ymwelwyr i arddangosfa "Grand Designs Live" 2008, a barhaodd 9 diwrnod, yng nganolfan Excel, Llundain. Darlledodd Channel 4 ddau raglen yn ddyddiol o'r sioe, sef Grand Designs Live:Today a Grand Designs Live.
Cylchgrawn [golygu]
Mae hefyd cylchgrawn cysylltiedig, a elwir hefyd yn Grand Designs, a gyhoeddir gan Media 10, gyda gwybodaeth am d dylunio a thechnoleg cyfoes ar gyfer y cartref a'r ardd, a chyngor a chanllawiau i helpu pobl gyda'u prosiectau eu hunain.