Goleuedigion Bafaria

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arwyddlun Goleuedigion Bafaria, sy'n dangos Tylluan Minerva, symbol o ddoethineb, yn clwydo ar ben llyfr agored.

Cymdeithas gyfrinachol a sefydlwyd gan yr athronydd Almaenig Adam Weishaupt yn ystod yr Oleuedigaeth oedd Goleuedigion Bafaria neu Urdd y Goleuedigion (Lladin: Illuminati, Almaeneg: der Illuminatenorden). Sefydlwyd ar 1 Mai 1776 yn Ingolstadt, Bafaria Uchaf, yr Almaen. Roedd ei aelodau yn rhydd-feddylwyr ac yr oedd y gymdeithas yn seiliedig i raddau ar y Seiri Rhyddion.[1]

Roedd gan yr Urdd ganghennau mewn mwyafrif o wledydd Ewrop, a 2,000 o aelodau dros y ddegawd yr oedd yn bodoli.[2] Ymysg aelodau'r Urdd oedd Johann Wolfgang von Goethe.

Ym 1777 daeth Karl Theodor yn Ddug Bafaria, a gwaharddodd cymdeithasau cyfrinachol gan gynnwys y Goleuedigion. Daeth yr Urdd i ben tua 1784/5.

Rhwng 1797 a 1798 cyhoeddwyd Mémoires pour servir à l'Histoire du Jacobinisme gan Augustin Barruel a Proofs of a Conspiracy gan John Robison, dau lyfr a ddadleuodd y wnaeth Goleuedigion Bafaria oroesi ac yr oeddent yn cynllwynio ar lefel ryngwladol, gan achosi'r Chwyldro Ffrengig er enghraifft. Mae nifer o ddamcaniaethau cydgynllwyniol modern yn honni bod gan grŵp o'r enw "y Goleuedigion" (Illuminati) ddylanwad a rheolaeth eang dros faterion y byd gyda'r nod o sefydlu Trefn Byd Newydd. Mae'r damcaniaethau hyn yn tarddu o Oleuedigion Bafaria.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) Goeringer, Conrad. The Enlightenment, Freemasonry, and The Illuminati. American Atheists.
  2. (Saesneg) McKeown, Trevor W.. A Bavarian Illuminati Primer. Prif Gyfrinfa British Columbia a Yukon A.F. & A.M..