Damcaniaeth gydgynllwyniol

Oddi ar Wicipedia

Damcaniaeth yw damcaniaeth gydgynllwyniol sy'n honni bod cynllwyn neu gydgynllwyn cyfrinachol gan grŵp o bobl[1] i ennill amcanion drwgdybus. Mae rhai damcaniaethau yn ceisio esbonio digwyddiad hanesyddol trwy gynllwyn cyfrinachol, a damcaniaethau eraill yn honni bod cynllwyn systemig gan grŵp sydd ag amcanion eang, yn aml i reoli gwlad, rhanbarth, neu hyd yn oed yr holl fyd. Yn aml mae damcaniaethau cydgynllwyniol yn ymylol ac eithafol ac yn destun sgeptigaeth, a dadleuol iawn yw'r dystiolaeth drostynt, ond weithiau mae ambell cydgynllwyn y gellir ei brofi yn dod i'r amlwg.

Mae'r theoriau yn aml yn gweld llaw y Wladwriaeth Ddofn y wlad yn rhan o'u cynllwynion, boed yn wir neu beidio.

Cydgynllwynion a brofwyd i fod yn wir[golygu | golygu cod]

Mae nifer o gydgynllwynion hanesyddol a brofwyd i fod yn wir. Maent yn cynnwys sgandalau gwleidyddol, megis Watergate ac Iran-Contra, a phrosiectau cudd gan lywodraethau neu asiantaethau llywodraethol neu hyd yn oed sefydliadau a grwpiau eraill megis cwmnïau. Mae enghreifftiau eraill o gydgynllwynion gwir yn cynnwys arbrawf syffilis Tuskegee, Prosiect MKULTRA gan y CIA, a helynt dogfennau ffug wraniwm Niger.

Yn ôl yr academydd Katherine K. Young, "mae gan bob cydgynllwyn gwir o leiaf pedair arwedd nodweddiadol: grwpiau, nid unigolion ar ben eu hunain; amcanion anghyfreithlon neu sinistr, nid nodau bydd yn fuddiol i gymdeithas i gyd; gweithredoedd wedi eu trefnu a'u rheoli, nid cyfres o weithredoedd digymell ac ar hap; a chynllwynio cudd, nid trafodaeth gyhoeddus".[2]

Rhestr damcaniaethau cydgynllwyniol[golygu | golygu cod]

Trefn Byd Newydd[golygu | golygu cod]

Damcaniaethau am lywodraeth fyd dotalitaraidd neu grwpiau sy'n ceisio rheoli'r byd.

Damcaniaethau baner ffug[golygu | golygu cod]

Gweithredoedd cudd gan lywodraethau, yn aml yn erbyn sifiliaid neu dargedau milwrol eu hunain, sydd yna'n honni taw eraill, er enghraifft terfysgwyr, sy'n gyfrifol.

Bradlofruddiaethau, marwolaethau, a marwolaethau wedi'u ffugio[golygu | golygu cod]

Gwrthrychau hedegog anhysbys (UFO)[golygu | golygu cod]

Damcaniaethau sy'n honni bod llywodraethau yn cuddio tystiolaeth o fywyd y tu hwnt i'r Ddaear.

Arall[golygu | golygu cod]

Damcaniaethwyr cydgynllwyniol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mae rhai damcaniaethau cydgynllwyniol yn honni nid bodau dynol sydd y tu ôl i gynllwynion, ond "bodau ymlusgol" sy'n cymryd ffurf ddynol.
  2. Young, Katherine K.; Paul Nathanson (2010) Sanctifying misandry: goddess ideology and the Fall of Man Gwasg Prifysgol McGill-Queen ISBN 9780773538733 t. 275.