Glesyn mawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Phengaris arion
neu Maculinea arion
Adain uchaf
Isadain
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Lycaenidae
Genws: Phengaris
Rhywogaeth: P. arion
Enw deuenwol
Phengaris arion
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron
  • Papilio arion Linnaeus, 1758
  • Glaucopsyche arion (Linnaeus, 1758)
  • Maculinea arion (Linnaeus, 1758)

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glesyn mawr, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gleision mawr (-ion); yr enw Saesneg yw Large Blue, a'r enw gwyddonol yw Phengaris arion neu Maculinea arion.[2] [3] P. a. arion yw'r isrywogaeth a geir ym Mhrydain heddiw. Mae'r isrywogaeth endemig P. a. eutyphron wedi diflannu.[4]

Glesyn mawr ar ddeilen Thymus praecox

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r glesyn mawr yn lindysyn sy'n bwyta blodau teim. Mae'n cynhyrchu hylif melys sy'n denu morgrug. Mae'r morgrug yn cario'r lindysyn i'w nyth lle mae'n bwydo ar larfâu'r morgrug ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler.[5] Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Cynefin[golygu]

Fe'i gwelir mewn llawer o wledydd Ewropeaidd ac yn Asia. Diflannodd o wledydd Prydain yn 1979 ond cafodd ei ail gyflwyno yno gan gadwriaethwyr sy'n parhau i geisio deall ei gylched bywyd cymhleth. Ei gynefin yw gweundiroedd a rhostiroedd, tywynnau a bryniau.

Maint[golygu]

Tua 13 mm yw hyd y siani flewog a gall fyw am oddeutu 9 mis tan ei fod yn barod i forffio o fewn ei sach grisial (neu biwpa). Mae'r oedolyn tua 50mm (dwy fodfedd) ac yn byw am ychydig wythnosau. Mae ganddo ddotiau bychan, duon ar ei adenydd.

Gweler hefyd[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu]

  1. http://www.iucnredlist.org/apps/redlist/details/12659/0
  2.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  3. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  4. UK Butterflies: Large Blue. Adalwyd 4 Rhagfyr 20102.
  5. Lewington, Richard (2003) Pocket Guide to the Butterflies of Great Britain and Ireland, British Wildlife Publishing, Hampshire.