Freddie Mercury

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Freddie Mercury yn perfformio ar Stadiwm Wembley ym 1986

Roedd Freddie Mercury (ganed Farrokh Bulsara) (5 Medi 194624 Tachwedd 1991) yn gerddor Prydeinig a anwyd yn Zanzibar. Mae'n fwyaf adnabyddus fel prif leisydd a chyd-sefydlwr y band roc Queen. Roedd yn enwog am ei allu lleisiol, ei garisma a'i berfformiadau byw. Fel cyfansoddwr, cyfansoddodd nifer o ganeuon o fu'n lwyddiannau rhyngwladol gan gynnwys "Bohemian Rhapsody", "Killer Queen", "Somebody to Love", "Don't Stop Me Now", "We Are the Champions" a "Crazy Little Thing Called Love". Yn ogystal â'i waith gyda Queen, cafodd yrfa unigol gyda pheth llwyddiant ac yn achlysurol gweithiodd fel cynhyrchydd a cherddor gwâdd (piano neu leisiol) i artistiaid eraill. Cyfeiriwyd at Mercury, a oedd o dras Indiaidd Parsî ac a fagwyd yn yr India, fel "seren roc Asiaidd gyntaf Prydain."."[1] Bu farw o bronchopneumonia a achoswyd gan HIV ar y 24ain o Dachwedd 1991, diwrnod yn unig ar ôl iddo gydnabod yn gyhoeddus fod ganddo'r clefyd. Yn 2006, enwodd Times Asia fel un o arwyr mwyaf dylanwadol Asia yn y 60 mlynedd diwethaf[2]. Fodd bynnag, fe'i beirniadwyd ef am gadw ei dras ethnig, ynghyd â'i rywioldeb a'i statws HIV, yn gyfrinach o'r cyhoedd.[3][4]

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Januszczak, Waldemar (1996), "Star of India", The Sunday Times (Llundain), 17 Tachwedd 1996
  2. Fitzpatrick, Liam (2006), "Farrokh Bulsara", Time Magazine, Asia Edition, 60 Years of Asian Heroes (Hong Kong: Time Asia) 168(21), 13 Tachwedd 2006
  3. Landesman, Cosmo (2006), "Freddie, a Very Private Rock Star", The Sunday Times, 10 Medi 2006
  4. Cain, Matthew, cyfarwyddwr (2006), Freddie Mercury: A Kind of Magic, Llundain: British Film Institute
Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato