Queen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Queen
Queen 1984 012.jpg
Queen yn 1984
Gwybodaeth gefndirol
Cerddoriaeth roc
Blynyddoedd 1970 -
Label(i) recordio Parlophone
Gwefan Gwefan swyddogol
Aelodau
Brian May

Roger Taylor

Cyn aelodau
John Deacon

Freddie Mercury

Grŵp roc byd-enwog o'r Deyrnas Unedig ydy Queen ac fe'i ffurfwyd yn Llundain yn 1970 gan y gitarydd, Brian May, y canwr Freddie Mercury a'r drymiwr Roger Taylor, ymunodd y gitarydd bâs John Deacon blwyddyn yn ddiweddarach. Cododd Queen i'r amlwg yn ystod yr 1970au; maent yn un o fandiau mwyaf llwyddianus gwledydd Prydain dros y tri degawd diwethaf.[1]

Mae'r band yn nodweddiadol am ei amrywiaeth cerddorol, gyda chyfansoddiadau aml-haenog, harmoniau llais a chyfuniad cyfranogaeth y dorf yn eu perfformiadau byw.[2] Etholwyd eu perfformiad yn Live Aid 1985 y perfformiad cerddorol gorau erioed gan arolwg barn y BBC yn 2005.[3]

Cafodd Queen lwyddiant cymedrol yn gynnar yn yr 1970au gyda'r albymau Queen a Queen II, ond rhyddhad Sheer Heart Attack yn 1974 a A Night at the Opera y flwyddyn ganlynol a enillodd lwyddiant rhyngwladol i'r band. Mae pob un o albymau stiwdio'r band wedi cyrraedd safle rhif 1 mewn amryw o siartiau ar draws y byd. Ers 1973, maent wedi rhyddhau pymtheg albwm stiwdio, pump albwm byw a nifer o albymau casgliad. Yn ôl OhmyNews, mae'r band wedi gwerthu dros 300 miliwn copi ar draws y byd,[4] gan gynnwys mwy na 32.5 miliwn yn yr Unol Daleithiau yn unig,[5] gan eu gwneud yn un o'r bandiau sydd wedi gwerthu'r nifer fwyaf erioed.

Yn dilyn marwolaeth Freddie Mercury ac ymddeoliad John Deacon yn yr 1990au,[6] mae'r gitarydd Brian May a'r drymiwr Roger Taylor wedi gweithio ynghyd â Paul Rodgers o dan yr enw Queen + Paul Rodgers.

Hanes[golygu]

Dyddiau Cynnar (1969-1973)[golygu]

"I thought up the name Queen. It's just a name, but it's very regal obviously, and it sounds splendid. It's a strong name, very universal and immediate. It had a lot of visual potential and was open to all sorts of interpretations." Freddie Mercury

Yn 1969, penderfynodd y gitarydd Brian May, myfyriwr yng Ngholeg Imperial Llundain, a'r gitarydd bâs Tim Staffell ffurfio grŵp. Rhoddodd May hysbyseb ar hysbysfwrdd y coleg ar gyfer drymiwr o "fath Mitch Mitchell/Ginger Baker"; clywelwyd Roger Taylor, myfyriwr deintyddol ifanc, a chafodd y swydd. Galwyd y grŵp yn Smile a gweithiont fel grwp cefnogi bandiau megis Jimi Hendrix, Pink Floyd, Yes a'r Genesis gwreiddiol. Arwyddwyd Smile i label Mercury Records yn 1969, a cawsont eu seisiwn recordio cyntaf yn Trident Studios y flwyddyn honno. Roedd Staffell yn mynychu Ealing Art College gyda Farrokh Bulsara, a adnabyddwyd yn ddiweddarach odan yr enw Freddie Mercury, a cyflwynodd ef i'r band. Daeth Bulsara yn ffan yn fuan. Gadawodd Staffell yn 1970 i ffurfio band arall, Humpy Bong;[7] annogwyd yr aelodau a oedd ar ôl yn Smile i newid eu henw i "Queen" gan Bulsara, a parhaont i weithio gyda'i gilydd.[7] Cafodd y fand nifer o chwaraewyr gitar fâs yn ystod y flwyddyn hon, gan newid yn gyson gan nad oeddent yn cydweddu gyda'r band. Ym mis Chwefror 1971 penderfynont gael John Deacon a dechreuont ymarfer ar gyfer eu albwm cyntaf.[8]

Yn 1973, ar ôl cyfres o oediadau, rhyddhaodd Queen eu albwm cyntaf, a'i ddylanwad yn gryf gan heavy metal a progressive roc yr adeg. Derbyniwyd yr albwm yn dda gan y berniaid; dywedodd Gordon Fletcher o'r Rolling Stone fod eu albwm yn ardderchog ("their debut album is superb").[9]

Dechrau llwyddiant (1974–1979)[golygu]

Sain newydd a syntheseiddwyr (1980–1989)[golygu]

Marwolaeth Mercury a'r albymau terfynol (1990–1997)[golygu]

Prosiectau "Queen + …"[golygu]

Datblygwyd nifer o brosiectau Queen + yn ystod y blynyddoedd ganlynol, ychydig ohonynt yn ail-gymysgiadau o'u gwaith heb unrhyw mewnbwn artistig gan y band. Yn 1999, rhyddhawyd albwm Greatest Hits III. Arni ymysg traciau eraill roedd "Queen + Wyclef Jean" ar fersiwn rap o "Another One Bites the Dust"; fersiwn byw o "Somebody to Love" gan George Michael; a fersiwn byw o "The Show Must Go On", a berfformwyd yn 1997 gyda Elton John.

Perfformiodd Brian May a Roger Taylor yn fyw o dan yr enw Queen amryw o weithiau (seremoniau gwobrwyo, cynherddau elusennol a digwyddiadau tebyg) gan rannu'r lleisio gydag amryw o gantorion gwestai. Maent hefyd wedi recordio nifer o gloriau o hits Queen, gan gynnwys "We Will Rock You" a "We Are the Champions".

Yn 2003, recordwyd pedwar cân newydd gan Queen ar gyfer ymgyrch 46664 Nelson Mandela yn erbyn AIDS. Nid yw'r feriynau stiwdio o Invincible Hope (Queen + Nelson Mandela, gyda Treana Morris), 46664 - The Call, Say It's Not True, a Amandla (Anastacia, Dave Stewart a Queen) wedi cael eu rhyddhau ar albwm eto.

Queen + Paul Rodgers[golygu]

Perfformiadau Byw[golygu]

Casglodd y band gatalog amrywiol o ganeuon gan wneud defnydd o systemau sain enfawr, goleuo, tân gwyllt, ac amryw o wisgoedd afradlon ier mwyn helpu creu digwyddiadau theatrig difyr. Fel y prif lais, gallodd Mercury ymdrolli yng ngweniaith y gynulleidfa a ffynnodd ar eu cynnwrf. Helpodd Queen baratoi ysgogiad ar gyfer gweld stadiymau ac arenau mawr eraill fel lleoliadau ar gyfer cyngherddau roc. Arweiniodd enw da'r band am berfformiadau byw gwych i nifer o gyngherddau gael eu rhyddhau ar albymau a fideo. Gwerthwyd copiau Bootleg o gyngherddau Queen ar wefannau a trwy gylgronnau ffaniau.

Yn y byd digidol[golygu]

Rhyddhaodd Queen gêm cyfrifiadur y cyd gyda Electronic Arts yn 1998, Queen: The Eye, a oedd yn fethiant masnachol a beirniadol. Daeth y cerddoriaeth ei hun o gatalog eang Queen, ond roedd wedi eu ail-cymysgu, a gyda amryw o fersiynau offeryno newydd a'u derbynwyd yn dda ar y cyfan ond roedd y gêm ei hun yn wael. Cymerodd y gêm amser hir iawn i'w ddatbltgu ac felly roedd nifer o'r elfennau graffegol i'w gweld ar ôl yr oes erbyn iddo gael ei ryddahu.

Ffilm a theledu[golygu]

Albymau[golygu]

  • Queen (1973)
  • Queen II (1974)
  • Sheer Heart Attack (1974)
  • A Night at the Opera (1975)
  • A Day at the Races (1976)
  • News of the World (1977)
  • Jazz (1978)
  • Live Killers (1979)
  • The Game (1980)
  • Flash Gordon (1980)
  • Greatest Hits (1981)
  • Hot Space (1982)
  • The Works (1984)
  • A Kind of Magic (1986)
  • Live Magic (1986)
  • The Miracle (1989)
  • Innuendo (1991)
  • Greatest Hits II (1991)
  • Live at Wembley '86 (1992)
  • Made in Heaven (1995)
  • Queen Rocks (1997)
  • Greatest Hits III (1999)

Cyfeiriadau[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.