Ffesant Euraid
| Ffesant Euraid | |
|---|---|
| Ceiliog Ffesant Euraid | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Galliformes |
| Teulu: | Phasianidae |
| Genws: | Chrysolophus |
| Rhywogaeth: | C. pictus |
| Enw deuenwol | |
| Chrysolophus pictus Linnaeus, 1758 |
|
Mae'r Ffesant Euraid (Chrysolophus pictus ) yn aelod o deulu'r Phasianidae, y ffesantod. Fe'i ceir yn ardaloedd mynyddig gorllewin Tseina, ond mae poblogaethau wedi eu sefydlu eu hunanin mewn rhannau eraill o'r byd.
Mae'r Ffesant yn aderyn gweddol fawr, gyda'r ceiliog yn 90-105 cm o hyd, gyda'r gynffon hir yn gyfrifol am ddwy ran o dair o hyn. Gan fod y ceiliog yn aderyn lliwgar iawn, mae'r rhywogaeth yn boblogaidd mewn casgliadau adar. Nid yw'r iar mor lliwgar, ac mae'n weddol debyg i iar Ffesant cyffredin.
Mae'r Ffesant Euraid yn byw mewn coedwigoedd trwchus, yn enwedig coedwigoedd conifferaidd, ac oherwydd hyn gall fod yn anodd ei weld.Eu prif fwyd yw grawn a phryfed. Adeiledir y nyth ar lawr, ac maent yn dodwy oddeutu ddeg wy. Gwell ganddynt redeg ar hyd y llawr na hedfan, ond gallant hedfan yn dda ac yn gyflym pan fydd rhaid.
Hyd yn diweddar, roedd dwy boblogaeth o'r rhywogaeth yma wedi eu sefydlu eu hunain ar Ynys Môn, ond credir bod y ddwy boblogaeth wedi diflannu bellach.[1]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ (Saesneg) birdforum.net. Adalwyd ar 09 Mai 2012.