Emlyn Hooson

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gwleidydd a bargyfreithiwr a Chwnsler y Frenhines oedd Hugh Emlyn Hooson, y Barwn Hooson neu Yr Arglwydd Emlyn Hooson (1925 - 21 Mawrth 2012).

Cynnwys

Blynyddoedd cynnar [golygu]

Roedd yn fab ar fferm fynyddig yng Ngholomendy, Sir Ddinbych. Yn fuan ar ôl gadael Ysgol Ramadeg Dinbych gwasanaethodd yn y Llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ei yrfa [golygu]

Yn 1949 cafodd ei al i'r bar yng Gray's Inn. 11 mlynedd yn ddiweddarach gwnaed yn Gwnsler y Frenhines. Ef fu'n amddiffyn y llofrudd plant Ian Brady a garcharwyd yn 1966.

Gwleidyddiaeth [golygu]

Bu'n Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Faldwyn rhwng 1962 a 1979.

Cyfeiriadau [golygu]

  • Davies, Glyn (Ebrill 2012). Yr Arglwydd Hooson (1925-2012), Rhifyn 591. Barn