Ellen DeGeneres
Actores, digrifwraig a chyflwynydd teledu Americanaidd yw Ellen Lee DeGeneres (ganwyd 26 Ionawr, 1958). Mae hi wedi ennill Gwobr Emmy deuddeg gwaith ac mae'n cyflwyno The Ellen DeGeneres Show.
Cyflwynodd seremoni Gwobrau'r Academi a'r Emmys. Fel actores ffilm, serennodd yn Mr. Wrong, a darparodd y llais ar gyfer cymeriad Dory yn ffilm animeiddiedig Pixar, Finding Nemo. Serennodd mewn dau gomedi sefyllfa hefyd, Ellen o 1994 tan 1998 ac The Ellen Show o 2001 tan 2002. Ym 1997, yn ystod y bedwaredd gyfres o Ellen, daeth Ellen allan yn gyhoeddus fel lesbiad tra'n cael ei chyfweld gan Oprah Winfrey. Yn fuan wedi hyn, daeth ei chymeriad yn y rhaglen gomedi Ellen Morgan allan i'w therpaydd, a oedd yn cael ei chwarae gan Oprah Winfrey. Aeth y gyfres yn ei blaen i edrych ar faterion LHDT gwahanol, yn ogystal â'r broses o ddod allan.
Ffilmograffiaeth [golygu]
Teledu [golygu]
- Women of the Night (1988)
- Open House (1989-1990)
- Laurie Hill (1992-1993)
- Roseanne fel Dr. Whitman (1995)
- Ellen (1994-1998)
- The Larry Sanders Show fel ei hun yn 'Ellen, or isn't she?' (1996)
- Mad About You fel Nancy Bloom (1998)
- If These Walls Could Talk 2 (2000)
- Ellen DeGeneres: The Beginning (2000)
- Will & Grace fel Sister Louise (2001)
- On the Edge (2001)
- The Ellen Show (2001-2002)
- Ellen DeGeneres: Here and Now (2003)
- The Ellen DeGeneres Show (2003-presennol)
- Six Feet Under fel ei hun yn "Parallel Play" (2004)
- 57th Primetime Emmy Awards 2005
- 79th Academy Awards (Cyflwynydd) (Chwefror 25, 2007)
- Ellen's Really Big Show (2007)
- American Idol: Idol Gives Back (Cyd-gyflwynydd)
- Deal or No Deal fel model Deal or No Deal (2008)
- Ellen's Really Big Even Bigger Show (2008)
Ffilm [golygu]
- Arduous Moon (1990) (pwnc byr)
- Wisecracks (1991) (rhaglen ddogfen)
- Coneheads (1993)
- Trevor (1994) (pwnc byr)
- Ellen's Energy Adventure (1996) (pwnc byr)
- Mr. Wrong as Martha Alston(1996)
- Goodbye Lover (1998)
- Dr. Dolittle as John Dolittle's dog (1998) (llais)
- EDtv as Cynthia (1999)
- The Love Letter fel Janet Hall (1999)
- If These Walls Could Talk 2 fel Kal (2000)
- Pauly Shore Is Dead fel ei hun (2003)
- Finding Nemo fel Dory (2003) (llais)
- My Short Film (2004) (pwnc byr)
