Woody Allen
Actor, llenor, cerddor jazz, digrifwr, dramodydd, a chyfarwyddwr ffilm Americanaidd yw Woody Allen (ganed Allen Stewart Konigsberg; 1 Rhagfyr 1935). Mae ei gorff mawr o aith, a'i ardull ffilm ymenyddol, sy'n cymysgu dychan, ffraethineb a hiwmor, wedi ennill parch a'i wneud yn un o'r gwneuthurwyr ffilm mwyaf toreithiog yr oes gyfoes.[1] Mae Allen yn ysgrifennu, a chyfarwyddo ei ffilmiau yn ogystal ac actio yn y rhan fwyaf ohonynt. Mae Allen yn cymryd llawer o'i ysbrydoliaeth o lenyddiaeth, rhywioldeb, athroniaeth, seicoleg, ei hunaniaeth Iddeweg, sinema Ewropeaidd, a Dinas Efrog Newydd, ble'i ganwyd a bu'n byw am gydol ei oes.
Cynnwys |
Blynyddoedd cynnar [golygu]
Ganwyd a magwyd Allen yn Ninas Efrog Newydd, yn fab i Nettie (llysenw Cherrie; 8 Tachwedd 1906 - 27 Ionawr 2002), a oedd yn cadw'r cyfrifon yn nelicatessen y teulu, a Martin Konigsberg (25 Rhagfyr 1900 - 13 Ionawr 2001), engrafwr gemwaith a gweinydd.[2] Roedd ei deulu yn Iddeweg, a'i deidiau'n mewnfudwyr a oedd yn siarad Yiddish ac Almaeneg.[3] Roedd gan Allen chwaer, Letty (ganwyd 1943), magwyd hwy yn ardal Midwood, Brooklyn.[4] Ganwyd a magwyd ei rieni yn Lower East Side Manhattan.[3] Nid oedd ei blentyndod yn un hapus er ei fod o deulu dosbarth canol. Nid oedd ei rieni'n cyd-dynnu ac roedd y berthynas gyda'i fam anwadal, llym yn un bregus.[5] Siaradodd Allen Yiddish yn ei flynyddoedd cynnar, ac ar ôl mynychu Ysgol Hebraeg am wyth mlynedd, aeth i Ysgol Gyhoeddus 99 ac i Ysgol Uwchradd Midwood. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu'n byw mawn fflat yn 1402 Avenue K, rhwng Strydoedd East 14th a 15th. Fe enillodd y llysenw "Red" oherwydd ei wallt coch; gwnaeth argraff dda ar y myfyrwyr eraill gyda'i ddawn anhygoel o wneud triciau hud a chardiau.[6] Trwy ei bersonoliaeth mewn ffilm a chomedïau, mae'n aml wedi cyfleu ei hun fel rhywun sy'n gorfforol yn analluog ac yn amhoblogaidd yn gymdeithasol, mewn gwirionedd, roedd Woody Allen yn fyfyriwr poblogaidd ac yn chwaraewr pêl fasged a pêl fâs medrus.
Llyfryddiaeth [golygu]
- Don't Drink the Water: A comedy in two acts (1967), ASIN B0006BSWBW
- Play It Again, Sam (1969), ISBN 0-394-40663-X
- Getting Even (1971), ISBN 0-394-47348-5
- God: A comedy in one act (1975), ISBN 0-573-62201-9
- Without Feathers (1975), ISBN 0-394-49743-0
- Side Effects (1980), ISBN 0-394-51104-2
- Lunatic's tale (1986), ISBN 1-55628-001-7
- Complete Prose of Woody Allen (1992), ISBN 0-517-07229-7. (Casgliad o straeon byr Allen, cyhoedwyd gyntaf yn Getting Even, Without Feathers a Side Effects.)
- Three One-Act Plays: Riverside Drive / Old Saybrook / Central Park West (2003), ISBN 0-8129-7244-9
- Writer's Block: Two One Actplays (2005), ISBN 0-573-62630-8
- "A Second Hand Memory," (drama dau ran) (2005)
- Yannick Rolandeau "Le cinéma de Woody Allen", Aléas, 2006 ISBN 2-84301-144-2
- Mere Anarchy (2007), ISBN 978-1-4000-6641-4
Darllen pellach [golygu]
- The Importance of Being Famous: Behind the Scenes of the Celebrity Industrial Complex; Maureen Orth p233 ISBN 0-8050-7545-3
- Woody Allen on Woody Allen: In Conversation With Stig Bjorkman (1995), ISBN 0-8021-1556-X
- Woody Allen - A biography; John Baxter (1999) ISBN 0-7867-0666-X
- Woody Allen: Eine Biographie; Stephan Reimertz, Reinbek, (2000) ISBN 3-499-61145-7 (Almaeneg)
- Woody Allen; Stephan Reimertz, (rororo-Monographie), Reinbek, (2005) ISBN 3-499-50410-3 (Almaeneg)
- The Essential Woody Allen; Lauren Hill
- Fun With Woody, The Complete Woody Allen Quiz Book (Henry Holt), Graham Flashner
- Woody Allen: Interviews (Conversations With Filmmakers Series), R. E. Kapsis a K. Coblentz gol., (2006) ISBN 1-57806-793-6
- "Woody plots film return to London" by A Correspondent, Times Online, 30 Tachwedd 2005
- "Why I Love London" gan Simon Garfield, Guardian Unlimited, 8 Awst 2004
- Traethawd gan Victoria Loy ar yrfa Woody Allen
Ffynonellau [golygu]
- ↑ Greatest Film Directors of All Time.
- ↑ Woody Allen Biography (1935-)
- ↑ 3.0 3.1 The religion of Woody Allen, director and actor.
- ↑ Newman, Allen, and Kilganon. Curse of the Jaded Audience: Woody Allen, in Art and Life - New York Times. "I think he's slacked off the last few movies, said Norman Brown, 70, a retired draftsman from Mr. Allen's old neighborhood, Midwood, Brooklyn, who said he had seen nearly all of Mr. Allen's 33 films."
- ↑ The Unruly Life of Woody Allen
- ↑ Woody Allen : Comedian Profile.
Dilenni allanol [golygu]
- WoodyAllen.com (Answyddogol)
- Casgliad Woody Allen
- Trawthawd am y cymeriadau benywaidd yn ffimiau Allen
- Cyfweliad gyda Woody Allen, IFC.com