Pixar

Oddi ar Wicipedia
Pixar
Math
stiwdio animeiddio
Math o fusnes
is-gwmni
Diwydianty diwydiant ffilm
Sefydlwyd3 Chwefror 1986
SefydlyddEdwin Catmull, Alvy Ray Smith
PencadlysEmeryville
Cynnyrchmeddalwedd
PerchnogionThe Walt Disney Company, Steve Jobs
Nifer a gyflogir
1,233 (Ionawr 2020)
Gwefanhttps://Pixar.com Edit this on Wikidata

Mae Pixar Animation Studios yn gwmni cynhyrchu ffilmiau wedi'u hanimeiddio ar gyfrifiadur sydd wedi ei leoli yn Emeryville, Califfornia, yn yr Unol Daleithiau. Erbyn heddiw, mae'r stiwdio wedi ennill pedair ar hugain o Wobrau'r Academi, chwe Golden Globe, a thair Grammy, ynghyd â nifer o wobrau a llwyddiannau eraill. Mae'r stiwdio'n fwyaf adnabyddus am ffilmiau wedi'u hanimeiddio ar gyfrifiadur sy'n cael eu creu gan ddefnyddio PhotoRealistic RenderMan.

Dechreuodd Pixar ym 1979 o dan yr enw Graphics Group, a oedd yn rhan o Adran Gyfrifiadurol Lucasfilm cyn cafodd ei brynu gan gyd-sefydlwr Apple Steve Jobs ym 1986. Prynodd Cwmni Walt Disney Pixar yn 2006.

Mae Pixar wedi cynhyrchu 11 ffilm, gan ddechrau gyda Toy Story ym 1995, ac mae pob un o'r ffilmiau wedi derbyn beirniadaethau canmoladwy ac wedi bod yn llwyddiannus o safbwynt masnachol. Yn sgîl llwyddiant "Toy Story" ym 1995, aeth Pixar ymlaen i ryddhau A Bug's Life ym 1998, Toy Story 2 ym 1999, Monsters, Inc. yn 2001, Finding Nemo yn 2003, The Incredibles yn 2004, Cars yn 2006, Ratatouille yn 2007, WALL-E yn 2008, Up yn 2009 (sef ffilm gyntaf Pixar i gael ei chyflwyno ar fformat Digidol 3-D Disney) a Toy Story 3 yn 2010 (sef ffilm mwyaf llwyddiannus Pixar o safbwynt masnachol erbyn heddiw, gan wneud dros $1.06 biliwn yn fyd-eang).

Ers cyflwyno'r categori am y Ffilm Gorau wedi'u Hanimeiddio yng Ngwobrau'r Academi, mae Pixar wedi cael eu henwebu ar saith achlysur ac wedi ennill 5 o'r gwobrau.